Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Sacha Pingue
“Pan roeddwn i yn yr ysgol, dwi’n meddwl mai fi oedd yn ei chael hi waethaf, gan nad oeddwn i’n Ddu nac yn wyn.”
Ganed Sacha Pingue yn Ysbyty Victoria Jubilee yn Jamaica yn 1975. Daeth i’r Deyrnas Unedig yn tua 14 mlwydd oed.
“... Naill ai yn fanno [yr ysbyty] neu gartref... roedd yno wastad un neu ddwy o fenywod hŷn pan oeddech chi’n rhoi genedigaeth, fel bydwragedd heb gymwysterau, ond roedden nhw’n gymwys, roedd fy nain yn un o’r rheiny, a phan oeddech chi’n cael problem, [roedden nhw’n] estyn am yr olew castor a dŵr poeth a thywel... roedden nhw’n dod allan yn saffach na phe byddech chi yn yr ysbyty.”
Teithiodd Sacha i Brydain ar awyren British Airways ar yr 20fed o Fehefin 1990; yn gobeithio am safon gwell o fyw.
“Fi oedd yr hynaf... roedd fy mam yn meddwl y buasai’n well i mi... roedd gen i sgert fach ddu a gwyn gyda ffrils a thop bychan, a wyddwn i ddim beth ddaeth drostyn nhw i fy ngwisgo yn y rheiny.”
“Roedd y flwyddyn gyntaf yn arteithiol, roeddwn i’n casáu bod yma. Y bwlio, yr anwybodaeth, y cwestiynau a ofynnwyd imi... maen nhw’n ryw ddweud, gan eich bod yn dod o rywle arbennig, eich bod yn anllythrennog, ac yn gofyn imi a oes gennym ni drydan...”
“[Yn Jamaica] does dim ofn popeth arnoch chi, fel yn y fan yma... dywedai fy nain bob amser ‘paid â llosgi’r pontydd ar dy ôl’... ceisia fyw yn dda gyda phobl... efallai, os bydd un o fy mhlant mewn sefyllfa, y bydd rhywun yn dweud ‘O, merch Sasha yw honna, fe wnawn ni helpu.’”
“Y wawr a’r machlud yw fy therapi i, dim ots faint o straen sydd arna i, pan rwy’n cyrraedd yno, dyna’r cwbl rwy’n canolbwyntio arno, y wawr, y machlud a’r dŵr. Pan rwyf i yma, dyna’r cwbl sydd ar fy meddwl, ac weithiau rwy’n recordio tonnau’r môr jest i gael gwrando arnynt.”