Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pratt & Whitney Wasp Major aero-engine
Nid yw adeiladu awyrennau yn weithgarwch a gysylltir â Chymru fel rheol, ond yn 1940 sefydlodd y British Overseas Aircraft Corporation (British Airways wedi hynny) waith argyweirio awyrennau yn Nhrefforest. Yr adeg honno roedd pob awyren yn cael ei gyrru gan bropelydd a yrrid gan injan biston yn llosgi tanwydd hedfan. Mae injan hwn a argyweiriwyd yn Nhrefforest yn un o’r cryfaf o’r math dan sylw.
Pratt a Whitney Wasp Major yw – math a ddefnyddid yn y Boeing Strarocrusier rhwng 1949 a 1959 ac mae’n cynrychioli pen eithaf datblygiad yr awyren injan biston.
Gallai ddatblygu 3,500 marchnerth wrth godi o’r ddaear a gyda 28 o silindrau mae hyn yn cynrychioli oddeutu 125 marchnerth y silindr. Mae’r nifer fawr o esgyll ar bob silindr yn danos mai aer oedd yn oeri’r injan ac oherwydd bod y silindrau wedi eu gosod mewn 4 rhes o 7 sinindr mae pob rhes wedi cael ei darwahanu ychydig oddi wrth yr un o’i blaen er mwyn i’r aer oer daro pob rhes o silindrau yn ei thro.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984