Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Diwrnod mabolgampau Jiwbilî’r Frenhines. Tyndyrn, Cymru.
Haf 1977 yw hi, ac mae grŵp o blant yn mwynhau ras ferfa ar y porfa wrth Abaty Tyndyrn. Cynhaliwyd y diwrnod mabolgampau ar achlysur jiwbilî arian y Frenhines ym mis Mehefin. Efallai eu bod nhw yno i ddathlu'r teulu brenhinol, neu i fwynhau diwrnod o hwyl gyda ffrindiau – does fawr o wahaniaeth. Gallwn ni deimlo cyffro'r plant yn y ffotograff.
Ffotograffydd dogfennol o Gymru yw David Hurn. Mae’n enwog am ei ffotograffau o fywyd bob dydd – pobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.