Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Armchair
Cadair freichiau dderw 'Ynysddu', dodrefn Brynmawr, 1930au.
Cafodd dodrefn Brynmawr ei ddylunio gan Paul Matt, a oedd yn Grynwr ac yn wneuthurwr cypyrddau medrus. Roedd am greu dodrefn syml a chadarn y gallai unrhyw un roi at ei gilydd. Arbrofodd gyda phaneli pren haenog wedi’u lamineiddio mewn fframiau peflog wedi’u gorffen â farnais glir. Daeth y dyluniad syml hwn yn nodweddiadol o ddodrefn Brynmawr.
Yn y 1920au, Brynmawr oedd un o drefi tlotaf Cymru. Roedd y Crynwyr yn credu mai dyma’r lle i wireddu eu delfrydau, sef creu swyddi a meithrin sgiliau ymhlith y di-waith. Cafodd y delfrydau hyn eu hyrwyddo wrth farchnata’r cynnyrch. Roedden nhw’n ddeniadol i ddosbarth canol a phroffesiynol y 1930au. Sefydlwyd mentrau eraill yn y dref hefyd, gan gynhyrchu esgidiau, hosanau a nwyddau wedi’u gwehyddu – ond y dodrefn oedd y llwyddiant ysgubol.
Roedd modd prynu dodrefn Brynmawr drwy’r post neu yn siopau mawr Cymru a Lloegr. Ym 1938, roedd gan y cwmni siop arddangos yn Cavendish Square, un o ardaloedd ffasiynol Llundain. Rhoddodd David Morgan, sef siop fawr adnabyddus yng Nghaerdydd, le i’r cwmni arddangos eu cynnyrch yn rhad ac am ddim, a chynhaliwyd arddangosfeydd yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol hefyd. Gwerthwyd y dodrefn fel cynnyrch Cymreig gydag enwau Cymreig, er enghraifft cist ‘Cwmbran’, bwrdd ‘Llanelli’ a chadair ‘Cwmdu’.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.