Armchair - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Chwilio
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Armchair

Cadair freichiau dderw 'Ynysddu', a wnaed gan Gwmni Dodrefn Brynmawr, 1930au.

Cafodd dodrefn Brynmawr ei ddylunio gan Paul Matt, a oedd yn Grynwr ac yn wneuthurwr celfi medrus. Roedd am greu dodrefn syml a chadarn y gallai unrhyw un roi at ei gilydd. Arbrofodd gyda phaneli pren haenog wedi’u lamineiddio mewn fframiau peflog wedi’u gorffen â farnais glir. Daeth y dyluniad syml hwn yn nodweddiadol o ddodrefn Brynmawr.

Yn y 1920au, Brynmawr oedd un o drefi tlotaf Cymru. Roedd y Crynwyr yn credu mai dyma’r lle i wireddu eu delfrydau, sef creu swyddi a meithrin sgiliau ymhlith y di-waith. Cafodd y delfrydau hyn eu hyrwyddo wrth farchnata’r cynnyrch. Roedden nhw’n ddeniadol i ddosbarth canol a phroffesiynol y 1930au. Sefydlwyd mentrau eraill yn y dref hefyd, gan gynhyrchu esgidiau, hosanau a nwyddau wedi’u gwehyddu – ond y dodrefn oedd y llwyddiant ysgubol.

Roedd modd prynu dodrefn Brynmawr drwy’r post neu yn siopau mawr Cymru a Lloegr. Ym 1938, roedd gan y cwmni siop arddangos yn Cavendish Square, un o ardaloedd ffasiynol Llundain. Rhoddodd David Morgan, sef siop fawr adnabyddus yng Nghaerdydd, le i’r cwmni arddangos eu cynnyrch yn rhad ac am ddim, a chynhaliwyd arddangosfeydd yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol hefyd. Gwerthwyd y dodrefn fel cynnyrch Cymreig gydag enwau Cymreig, er enghraifft cist ‘Cwmbran’, bwrdd ‘Llanelli’ a chadair ‘Cwmdu’.

Armchair
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (3)

Pwnc

Bywyd Gwerin

Rhif yr Eitem

F93.2.3

Mesuriadau

Uchder (cm): 87.5
Lled (cm): 66.5
Dyfnder (cm): 70
Pwysau (kg): 14.2
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯