Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
John Parry, y Telynor Dall (bu f.1782) gyda Chynorthwydd
Roedd John Parry, y telynor dall o Riwabon, yn gerddor enwog yn ei oes. Roedd yn ddall o oed ifanc, a daeth yn enwog am ei berfformiadau ar y delyn deires. Roedd yn gyfansoddwr a chyhoeddwr dylanwadol. Fe helpodd i sefydlu’r delyn deires yn symbol cenedlaethol o Gymru, wedi’i chysylltu â chwedlau rhamantus y derwyddon Celtaidd a’r hen feirdd, a daeth ag alawon gwerin Cymreig poblogaidd i sylw cynulleidfaoedd breintiedig ac elitaidd yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhai yn ystyried hyn yn rhywbeth wnaeth godi statws y caneuon gwerin, er eu bod o werth diwylliannol a chymdeithasol sylweddol beth bynnag. Gellir ei weld yma yn canu ei delyn mewn ystafell foethus, yn Wynnstay fwy na thebyg, cartref ei noddwr, Syr Watkin Williams Wynn. Roedd canu’r delyn yn un o’r ffyrdd prin y gallai pobl ddall gynnal bywoliaeth yn y 18fed ganrif, ond byddai’r rhan fwyaf o delynorion dall wedi bod yn dlawd ac yn ddifreintiedig. Roedd gan John Parry gyfuniad ffodus o ddawn a chefnogaeth noddwr cyfoethog, wnaeth ganiatáu iddo lwyddo yn ei faes. Mae’n bosibl mai’r cynorthwyydd wrth ei ochr yn y portread yw ei fab David. Mae’n dal y sgôr i anthem goroni enwog Handel, Zadok the Priest. Cyfeiriad yw hyn at gariad Watkin Williams Wynn at gerddoriaeth Handel a theyrnged i gerddor dall arall; roedd Handel ei hun bron yn hollol ddall erbyn 1751 ar ôl llawdriniaeth aflwyddiannus ar ei lygaid, ond fe barhaodd i berfformio. Gwnaeth y teulu Williams Wynn hefyd gefnogi mab John Parry, William, i ddod yn artist. Paentiodd William Parry sawl portread o’i dad, gan gynnwys hwn, a gafodd ei baentio tua 1770. Roedd William newydd ddod yn ôl i Gymru yn dilyn ei hyfforddiant yn yr Academi Frenhinol, wedi’i gefnogi gan Watkin Williams Wynn. Cafodd John Parry ei ramanteiddio yn ei oes fel un o hen feirdd Cymru wedi atgyfodi, ac roedd ei ddallineb yn rhoi dilysrwydd i’r stori. Roedd sawl bardd enwog yn hanes a llenyddiaeth yr henfyd yn ddall. Maent yn aml yn cael eu hystyried yn broffwydi, cyfrinwyr neu weledyddion, pobl a allai weld ar ryw lefel y tu hwnt i’r corfforol. Mae cysylltiad rhwng beirdd a dallineb yn ystrydeb ramantaidd, ond mae’n un sy’n dal ei dir yn nychymyg diwylliannol y Gorllewin. Roedd ‘cytgord dall swynol’ Parry gyda’i ‘alawon hudolus’ yn ysbrydoliaeth i Thomas Gray orffen ysgrifennu ei gerdd ddylanwadol ‘The Bard’ yn 1757.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.