Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cilewent farmhouse
Tŷ ffrâm nenffyrch a phren a godwyd fel neuadd agored tua 1470. Cafodd y waliau coed gwreiddiol eu hailgodi mewn carreg ym 1734 ac fe gerfiwyd y dyddiad ar ffrâm y drws allanol. Y cyfan sydd ar ôl o'r tŷ gwreiddiol yw'r ddwy nenfforch yn y beudy a phalis ffrâm bren rhwng y beudy a'r tŷ. 'Tŷ hir' yw hwn. Byddai'r gwartheg yn byw yn un pen a'r teulu yn y pen arall a byddai cyntedd cyffredin rhwng y ddwy ran. Roedd y math hwn o ffermdy yn gyffredin yn ne a chanolbarth Cymru ar un adeg. Yn ogystal â deuddeg o wartheg, roedd lle yno i gadw ceffylau a thaflod uwchben i gadw gwair.
Mae'r dodrefn yn perthyn i tua 1750. Roedd cist â chlawr arch fel sydd yn y cyntedd yn gyffredin mewn ffermdai yng Nghymru. Blawd ceirch oedd yn cael ei gadw yn hon. Roedd y caead wedi'i gynllunio fel y gellid ei droi â'i ben i waered a'i ddefnyddio i gario'r cynnwys.
Mae'r ffaith fod llaethdy ger y brif gegin yn dangos bod gwneud menyn a chaws yn ffynhonnell incwm bwysig i'r ffarmwr yn y cyfnod hwn. Ymhlith offer y llaethdy mae gwasg gaws drawiadol o dderw y llwyddwyd, yn glyfar iawn, i'w gwneud i edrych fel darn o ddodrefn y tŷ. Yn y brif ystafell fyw mae cwpwrdd tridarn derw tywyll o'r canolbarth. Ceir arno'r dyddiad 1726 a chredir mai dyna pryd yr ychwanegwyd y darn uchaf at gwpwrdd deuddarn hŷn. Mae hyn yn enghraifft dda o'r ffordd yr oedd dodrefn yn cael eu haddasu at ddibenion y perchennog neu at ffasiwn y cyfnod cyn dyddiau masgynhyrchu.