Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ffermwyr, Cwm Nantlle
Yn y paentiad hwn gan Kyffin Williams fe welwn ddau ffermwr yn sgwrsio a thrafod. Mae cymylau llwyd wedi ymgasglu uwch eu pennau, a phaent trwchus a lliwiau tywyll wedi eu defnyddio - nodweddion cryf yng ngwaith Kyffin. Mae'r ffermwyr yn amlwg yn ddwfn eu trafodaeth - trafod beth, tybed?
Gyda newidiadau sylweddol yn y diwydiant ffermio dros y blynyddoedd, ac iselder a gorbryder yn effeithio ar nifer o ffermwyr a'u teuluoedd, mae'r darlun hwn yn ein atgoffa mor bwysig yw trafod a sgwrsio gyda'r rheiny o'n cwmpas.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.