Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Teapot and cover
Mae'r siâp yn un o'r ffurfiau Meissen cynharaf ac yn amlwg yng nghrochenwaith caled Böttger o tua 1710. Mae ganddo hefyd brototeip arian a gellir ei briodoli i Johann Jacob Irminger (1634-1724), gofaint aur y llys oedd yn gyfrifol am ddyluniadau'r ffatri o 1710. Daw addurn y ffigwr o ddalen 87 yn Llawysgrif Schulz, y catalog o ddyluniadau a gasglwyd gan Höroldt ac eraill rhwng 1720 a 1730. Mae taflenni 87 ac 88 yn anarferol gan eu bod yn olygfeydd mewn cylchoedd, yn hytrach na chyfresluniau o ffigurau fel sydd i’w gweld yn y mwyafrif o Lawysgrifau, a credir eu bod yn weithiau cynnar iawn.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.