Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Comisiwn gan Maison De La Culture d'Amiens
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn mae: "Gyda chomisiwn grŵp gan Departement de La Somme, a dau gamera fformat canolig Plaubel ar fenthyg gan gyd-aelod Magnum, Chris Steele-Perkins, es i Amiens gyda chryn dipyn o nerfusrwydd. Dyma fi’n cyrraedd dinas yn Ffrainc doeddwn i erioed wedi clywed amdani, ac eithrio ei bod wedi chwarae rhan sylweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ddois o hyd i rywle lle nad oedd dim byd yn digwydd. Roeddwn wedi bod yn gweithio'n eitha llwyddiannus yn dilyn y newyddion mewn dros drigain o wledydd fel ffotonewyddiadurwr, ond roeddwn i'n teimlo bod rhywbeth ar goll: Er bod fy lluniau i'n ddigon da i'r farchnad a'r cylchgronau ro'n i'n gweithio iddyn nhw, doedden nhw ddim yn ddigon da i 'fi'. Roeddwn i'n teimlo bod y gwaith roeddwn i'n ei wneud braidd yn fflat, yn ddi-gymeriad ac yn gyffredinol. Roeddwn i'n dod i ddeall sut roedd golau'n gweithio, ond roeddwn i'n teimlo bod diffyg cynildeb yn y delweddau, gan eu bod naill ai'n ddu neu'n wyn, ond heb lawer o arlliw rhyngddynt. Yn y fformat negyddol mwy, roedd yn agoriad llygaid i mi y gallwn nawr ddatrys yr arlliwiau mwy cynnil ac roedd y canlyniadau’n gyffrous iawn. O hadau'r diffyg gweithredu hwn, sylweddolais mai'r hyn roedd angen i mi ei wneud oedd edrych, yn syml, a cheisio tynnu’r cynllunio, y stori, y cyfosodiadau, a oedd wedi dod yn flwch offer safonol i’r ffotonewyddiadurwr. Yn ddwfn ynof i roeddwn i'n gwybod yn reddfol y gallai 'awduraeth' ac arddull unigryw fy nghynnal drwy yrfa gyfan, ac roeddwn i'n teimlo fy mod i o'r diwedd wedi dod o hyd i'r ffordd ymlaen a allai aros gyda mi gydol oes. Cafodd yr holl ofn o esbonio, a disgwyl i bethau ddigwydd, ei ddisodli gan gyffro syml edrych a darganfod. Y pethau lleiaf oedd y mwyaf yn y diwedd. Doedd dim angen digwyddiadau arnaf i wneud gwaith roeddwn i’n hapus ag ef mwyach; gallwn dynnu lluniau yn unrhyw le. Wedi fy rhyddhau o'r pryder hwnnw, gwelais y gallwn greu rhywbeth allan o ddim byd, ac felly es i ‘ar daith’ gyda hyn a chymhwyso'r un dull at yr holl waith dw i wedi'i wneud ers hynny. Diolch, Amiens!" — Peter Marlow