Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pin-cushion
Pincas siâp calon wedi'i orchuddio â chotwm a'i lenwi â llwch llif. Wedi'i addurno â phinnau gwydr a decoupage papur yn dangos arfbais Adran Troedfilwyr 41 a 69 y Gatrawd Gymreig. Wedi'i addurno â brêd gwlân lliw melynbinc.
Gwnaed gan y Preifat Brinley Rhys Edmunds o'r Barri, fel anrheg i'w fam. Bu farw yng Ngwersyll Carcharorion Konigsbruck ar 5 Medi 1918, yn 19 oed, wrth wasanaethu gyda Throedfilwyr Durham. Ymrestrodd gyda'r Gatrawd Gymreig yn wreiddiol cyn cael ei ddiswyddo am fod dan oed ym 1915.