Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Lovespoon
Llwy garu fasarn gyda'r cerfiad 'Joseph Jones Awst 19 1873, Calcoed Farm'.
Roedd llanc yn creu llwy garu yn rhodd i’w gariad. Datblygodd yr arfer o roi llwyau caru o’r traddodiad o gerfio llwyau bob dydd i’r cartref. Cerfio llwy garu gymhleth a chain o un darn o bren gan ddefnyddio offer syml iawn oedd y grefft. Erbyn heddiw, mae cerfwyr pren masnachol yn creu llwyau caru i’w gwerthu fel anrhegion neu gofroddion, neu ar gyfer dathliadau teuluol.