Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau Eitem Blaenorol Eitem Nesaf

Dyrnu

ROTHENSTEIN, William (Rothenstein was born in Bradford of German-Jewish descent. He studied at the Slade School of art, London and the Académie Julian, Paris. As well as being appointed official war artist to the British Army 1917-1918, he was artist to the Canadian army in 1919. Between 1920 and 1935 he served as Principal of the Royal College of Art and in 1931 he was knighted.)

Yn y llun hwn gwelwn griw o weithwyr fferm yn llwytho'r cnwd grawn i'r injan ddyrnu er mwyn nithio'r grawn oddi wrth yr us. Roedd hwn yn waith beichus a blinedig a ddenai'r gymuned gyfan ynghyd fel arfer, gan gynnwys y gwragedd. Mae'r ddelwedd yn pwysleisio gwerth gwaith y rhai arhosodd gartref, a pha mor bwysig oedd cydweithrediad pobl Prydain adeg y rhyfel.

Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, "I hope to have the 5th drawing finished early this weekand the last next week. I will then come up to town and do what isneedful to the stones".' Nid oedd yn hapus gyda rhai o'i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau'n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae'r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae'r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle'r oedd Rothenstein yn byw.

Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a'r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi'n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu'n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1931.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.

Dyrnu
Delwedd: © Amgueddfa Cymru
 Chwyddo  

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 13199

Creu/Cynhyrchu

ROTHENSTEIN, William
Dyddiad: 1917

Derbyniad

Gift, 19/2/1919
Given by H. M. Ministry of Information

Mesuriadau

h(cm) sheet size:41.3
h(cm)
w(cm) sheet size:51.7
w(cm)

Techneg

lithograph on paper
lithograph
Planographic printing
prints
Fine Art - works on paper

Deunydd

ink
Paper

Lleoliad

In store

Categorïau

Gweithiau ar bapur | Works on paper Celf Gain | Fine Art Bywyd cyfoes | Contemporary life Tirwedd | Landscape Amaethyddiaeth | Agriculture Ôl 1900 | Post 1900 Rhyfel Byd Cyntaf, y Rhyfel Mawr | World War I
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Drilling
Celf

Drilio

ROTHENSTEIN, William
NMW A 13195
Mwy am yr eitem hon
Burning couch-grass
Celf

Llosgi marchwellt

ROTHENSTEIN, William
NMW A 13196
Mwy am yr eitem hon
Timber-hauling
Celf

Llusgo coed

ROTHENSTEIN, William
NMW A 13198
Mwy am yr eitem hon
Potato-planting
Celf

Plannu tatws

ROTHENSTEIN, William
NMW A 13197
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯