Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Adfer Alsace-Lorraine i Ffrainc
Canolbwynt y darlun yw Marianne, y ffigwr sydd yn Ffrainc yn alegori o Ryddid a Rheswm, ac mae'n gwarchod yn ei mynwes Alsace a Lorraine, a oedd newydd eu hadennill. Mae'r cefndir yn wenfflam. Roedd Alsace-Lorraine ar y ffin â'r Almaen yn destun gwrthdaro mawr. Bu'n ganolbwynt ymladd erchyll yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrth i'r naill ochr a'r llall ddefnyddio'r ardal a'i phobl fel gwystlon yng ngwres y frwydr. Un o dras Baltig-Almaenig oedd Greiffenhagen, a anwyd yn Llundain. Astudiodd yn Ysgolion yr Academi Frenhinol, gan arddangos ei waith yno o 1884. Ar ôl ennill bywoliaeth fel darlunydd, trodd ym 1900 at baentio portreadau. Bu'n brifathro Adran Bywlunio Ysgol Gelf Glasgow rhwng 1906 a 1929. Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,'gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.