Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Capel Pen-rhiw
Credir mai fel ysgubor y codwyd yr adeilad i ddechrau, tua chanol y ddeunawfed ganrif, ond dechreuodd yr Undodiaid ei ddefnyddio fel tŷ cwrdd neu gapel ym 1777. Cafodd y llofft gwreiddiol ei dynnu neu ei addasu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i greu'r galeri presennol, gan wneud lle i lawer mwy o bobl.
Mae'r corau ar y llawr isaf i gyd ychydig yn wahanol, sy'n dangos eu bod wedi'u gwneud yn wreiddiol ar gyfer gwahanol deuluoedd a'r rheiny'n gyfrifol amdanynt wedyn. Roedd y diaconiaid yn eistedd mewn sedd ar un ochr i'r pulpud uchel, a godwyd yn uwch pan adeiladwyd y galeri. Llawr pridd sydd i'r adeilad ar wahân i'r ardal gymun sydd â llawr pren. Roedd y seti cerrig a welir yn y bancyn y tu allan yn cael eu defnyddio yn ystod cyrddau mawr ac ati.
Mae'r Undodiaid wedi rhoi gwerth ar addysg erioed a bu'r capel yn cael ei ddefnyddio fel ysgol gynradd ac ysgol ramadeg; daethpwyd ar draws poteli inc, cwils ysgrifennu a 'Welsh Not' o dan y llawr pan dynnwyd yr adeilad i lawr ym 1953 i'w symud i'r Amgueddfa. Mae'n dal yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau adeg y Nadolig, y Pasg a Diolchgarwch.