Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ar Afon Llugwy islaw Capel Curig
Dyfroedd creigiog y Llugwy a’r coedwigoedd trwchus o’i hamgylch sy’n hoelio’r sylw yn y dirwedd eang hon. Mae bychanrwydd y ffigurau sy’n pysgota ac yn eistedd ar lan yr afon yn pwysleisio ehangder yr olygfa. Llifa’r Llugwy o’r dwyrain i Gapel Curig gan ymuno ag afon Conwy ym Metws-y-coed. Ymwelodd Leader ag Eryri am y tro cyntaf ym 1859 gan ddychwelyd sawl tro wedyn. Dylanwadodd y Cyn-Raffaeliaid arno, fel y mae manylder gofalus ei waith yn ei awgrymu. Benjamin Leader oedd un o'r arlunwyr tirluniau Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn ail hanner y 19eg ganrif, a bu'n arddangos yn yr Academi Frenhinol o 1857 hyd 1904. Ymwelodd ô Gogledd Cymru am y tro cyntaf ym 1859, gan aros ym Metws y Coed. Daeth Dyffryn Conwy yn un o'i hoff fannau i fraslunio, fel y bu i lawer o arlunwyr Oes Fictoria. Fe'i hetholwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol ym 1897, ac enillodd fedalau yn 'Exposition Universelle' Paris ym 1889 a Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Mae'r Llugwy yn ymuno ô'r Conwy ym Metws y Coed, ac roedd gwaith tebyg, wedi ei ddyddio mor hwyr â 1913, yn un o'r darluniau a welwyd yn yr arddangosfa yng Nghaerdydd ym 1913-14 dan y teitl 'Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction'.