Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Glaston Loderick
“Chalky White, nawr fe oedd y dyn oedd yn rhedeg y clwb ieuenctid ac ati... Dyn arbennig. Mae gan Butetown lawer o hanes amdano fe."
Ganed Glaston Loderick yn Trelawney, Jamaica. Gweithiodd ei dad yn Super Oil Seals am 30 mlynedd a mwy, ac roedd ei fam yn nyrs yn Ysbytai’r Waun a Glanelái, Caerdydd.
“Pan roedd fy rhieni i ffwrdd, roeddwn i’n byw gyda fy mam-gu ac rwy’n cofio llawer o bethau [amdani hi], roedd hi’n fenyw neis, yn fenyw dda.”
“Anfonodd fy nhad amdanaf i a fy mrawd ac fe ddaethom ni drosodd... fe ddois i yma pan oeddwn i’n 10 oed. Rwy’n gwybod yn union pa bryd oedd hi, Ebrill, ’66, pan ddechreuodd y buddugoliaethau yng Nghwpan y Byd...”
“Fe wnes i adael yr ysgol yn 15 oed ond roedd gen i swydd... fe ddechreuais i yno a gweithio am dair blynedd, fel mecanig moduron, ac roedd fy nau frawd arall yn fecanigion moduron hefyd... Gweithiwr wyf i, rwy’n hoffi gweithio, ’dwyf i ddim yn hoff o segura”
“Mae hanes pobl Dduon wedi bod yng Nghaerdydd erioed... yn yr hen ddyddiau, gwahanol genhedloedd oedd llawer ohono... mae’n ddistawach ac mae pobl yn cyd-dynnu.”
“Roeddwn i’n byw yn Butetown am gyfnod ac rwy’n ’nabod pawb i lawr yn fanno ac mae pawb yn fy ’nabod i... Roedd lawr y dociau yn gythraul o le. Dyna’r lle i fod yn ôl yn yr 80au... Bryd hynny roedd gyda chi’r clybiau i gyd, Casablanca – nawr dyna ichi le poblogaidd.”
“Mae’n sicr yn bwysig cael cymuned o’ch cwmpas, mae’n rhaid ichi gael sefydlogrwydd mewn rhyw ran o’ch bywyd.”
“Roedd yn bwysig i mi gael cymysgu gyda fy mhobl fy hun...”
“Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd ers imi ddod yma, a chefais i erioed unrhyw broblemau gydag unrhyw un.”
“Dim ond dal ati a byw bywyd a thyfu i fyny ryw ychydig, ac yna rydach chi’n addasu i bethe.”