Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Prefab
Roedd tai parod, neu pre-fabs fel y caent eu galw, yn ffordd o ddarparu llawer iawn o dai yn sydyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn lle rhai o'r rhai a fomiwyd. Roedd dwy ystafell wely ym mhob tŷ, gyda wardrobs cynwysedig, ystafell fyw, cyntedd, cegin osod ac ystafell ymolchi. Roedd ynddo dapiau dŵr poeth a dŵr oer, stof (nwy neu drydan), 'copor' golchi dillad, ac oergell wedi'i gosod.
Gwnaed cyfanswm o dros 153,000 o pre-fabs, yn ogystal â thai parod dau lawr. Roedd pedair fersiwn wahanol, pob un yn defnyddio'r un cynllun fwy neu lai ond wedi'u gwneud o ddefnyddiau gwahanol. Roedd y byngalos alwminiwm, fel yr un sydd yn yr Amgueddfa (Math B2), yn cael eu gwneud mewn ffatrïoedd a fu'n cynhyrchu awyrennau yn ystod y Rhyfel. Roedd hwn yn un o ddeugain o dai parod o'r fath a godwyd yn Llandinam Crescent ym 1948. Cynlluniwyd i bara ond ychydig o flynyddoedd ac felly ychydig iawn sydd ar ôl heddiw. Mae'n bosib mai dyma'r unig dŷ pre-fab alwminiwm sydd ar ôl ym Mhrydain.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.