Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Trousers
Trowsus ffustion gwyn yn cau gyda botymau (x13 botwm ar hyd blaen y band gwasg, x2 botwm ar gefn y band gwasg). I’w gwisgo gyda bresys.
Perchennog y trowsus oedd Trevor Williams a weithiai fel chwarelwr yn Chwarel Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, rhwng 1935 - 1960.
Mae’r trowsus chwarelwr yn enghraifft o wisg dyddiol / dillad gwaith chwarelwr. Yn ôl yr Athro R. Merfyn Jones yn ei lyfr ‘The North Wales Quarrymen, 1874 – 1922’:- “The quarryman’s dress was even more distinctive than his diet; corduroy trousers, hob-nailed boots and a flat cap came to be the distinctive bade of the quarryman in the twentieth century, but in the nineteenth the quarryman’s normal; dress was of white fustian…” (pg tud)
Mae trowsus o’r math yma yn eiconig - gwelir cannoedd o enghreifftiau yn cael eu gwisgo gan chwarelwyr yn y ffotograffau archif sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru.