Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Brass manilla from wreck of DOURO, 1843
Manilla pres a ganfuwyd tua 1979, o bosib o longddrylliad y Douro ger Ynysoedd Sili. Cafodd y llong (snow tri mast, 219 tunnell a adeiladwyd yn Sunderland) ei dryllio yn 1843 wrth deithio o Lerpwl i Oporto.
Byddai manillas yn cael eu defnyddio fel arian yn y fasnach drawsiwerydd mewn pobl gaeth o Affrica, gyda phobl yn cael eu prynu a'u gwerthu am 10 i 60 manilla yr un. Bydden nhw hefyd yn cael eu galw yn okpogho, ejemma, igbiki and kpugi.
Bydden nhw weithiau'n cael eu gwisgo mewn cymunedau yn Affrica fel addurn, yn enwedig ar hyd yr arfordir rhwng Liberia a Cote d'Ivoire heddiw. Yn ddiweddarach dechreuodd Ewropeaid gynhyrchu manillas i'w masnachu am bobl gaeth o Affrica. Dyma nhw’n dod yn fath o arian fyddai'n cael ei ddefnyddio mewn rhannau o Orllewin Affrica nes 1948 (a bydden nhw'n dal i gael eu defnyddio mewn rhai cymunedau lleol tan y 1960au).
Mae'n ddigon posib taw yng Nghymru y cafodd y copr yn y manilla hwn ei fwyndoddi (y broses o boethi a thoddi mwyn er mwyn rhyddhau'r metel ynddo) cyn ei gymysgu â sinc i greu pres. Mwy na thebyg taw yn Lloegr y cafodd y manilla hwn ei gynhyrchu, ond cyn hyn byddai cynhyrchu manillas wedi bod yn rhan sylweddol o waith diwydiant copr a phres gogledd a de Cymru. Mae gwyrain ar y rhan fwyaf o'r manillas yn y casgliad hwn, a nifer wedi troi yn lliw gwyrdd wrth i'r copr gyrydu ar ôl blynyddoedd ar wely'r môr.
Roedd Prydain wedi diddymu caethwasiaeth yn 1807, ond roedd gwledydd fel Brasil, Ciwba a'r UDA yn parhau i fasnachu pobl gaeth am flynyddoedd. Mae'n debygol i'r manilla hwn gael ei gynhyrchu ym Mhrydain i'w defnyddio gan Bortiwgal i fasnachu pobl gaeth – er bod Prydain wedi diddymu caethwasiaeth, roedd hi'n dal i gyfrannu at y fasnach.
[Disgrifiad wedi'u datblygu ar y cyd ag aelodau Chai & Chat (CGG Abertawe), Gorffennaf 2024]
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.