Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun Cymreig gyda Mwynfeydd
Wrth i gymylau du fygwth uwchlaw mae porthmon a’i geffylau yn cludo mwynau crai o fwynglawdd yng Nghymru. Cawn awgrym yn yr arlliwiau coch a brown daearol taw golygfa hydrefol yw hi. Mae dyn wedi cloddio yma am fwynau ar raddfa fach ers canrifoedd, ond gyda gwawr y chwyldro diwydiannol fe newidiwyd tirwedd Cymru yn llwyr. Mae’r cymylau bygythiol a’r tirlun garw yn cyfleu’r tensiwn rhwng natur a diwydiant, a’r caledi o wneud yn fawr o’n hadnoddau naturiol. Datgelodd technegau dadansoddi fraslunio cychwynnol o dan y paent, ac mae’n debyg y byddai Thomas Jones wedi paentio rhan o’r gwaith hwn yn yr awyr agored, cyn ei orffen yn y stiwdio. Mae’r gwaith wedi’i ddyddio oddeutu 1775, cyfnod pan oedd tirlun Cymru yn ysbrydoliaeth fawr iddo, ond mae’r manylion diwydiannol yn ei wneud yn unigryw ymhlith y gweithiau a oroesodd. Canfuwyd y gwaith gan Miles Wynn Cato, oedd hefyd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil sy’n sail i’r wybodaeth hon. Cadarnhawyd y dyddiad tebygol ac enw’r artist gan Greg Smith, cyd-olygydd catalog Thomas Jones 2003.