Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chair
Yn ystod y 1870au a’r 1880au daeth yn arferiad i gynnal cystadleuaeth i lunio'r gadair farddol orau yn Adran Celf a Chrefft yr Eisteddfod. Ym 1884 yn Eisteddfod Lerpwl noddwyd y gystadleuaeth hon gan y Cymmrodorion gyda £15 o wobr a aeth i Morris Henry Roberts, Llangollen. Mae ei gadair yn debyg i gadair 1876, ond yn yr achos hwn ychwanegodd aderyn Lerpwl o fewn y grib a phennau dreigiau ar y breichiau. Gwelir y pedwar llew hefyd, sef emblem tywysogion y canol oesoedd, wedi ei lleoli’n amlwg ar y panel cefn ymhlith y Tair Pluen, y cennin a’r Nod Cyfrin. Dyma gyfnod a welodd alw am emblemau cenedlaethol i Gymru.
Enillydd y gadair yn Eisteddfod Lerpwl oedd Dyfed, Evan Rees (1850-1923).
Gwnaethpwyd copi o’r gadair a'i chyflwyno i Gorfforaeth Lerpwl ac fe’i defnyddiwyd, yn ôl y sôn, fel Cadair y Maer yn Siambr y Cyngor.