Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Horse
Cynhyrchwyd y ceffyl crochenwaith hwn ar gyfer beddrod person cyfoethog, yn atgof o’u bywyd bob dydd. Roedd gan ffigyrau angladdol rôl allweddol mewn gorymdeithiau a chladdedigaethau yng nghyfnod llinach Tang (618-906). Cai ffigyrau eu gosod ar gert yn ystod yr orymdaith angladdol cyn eu trefnu o flaen y beddrod. Wedi claddu’r corff cant eu gosod mewn mannau penodol yn y siambr gladdu. Tyfodd yr arfer yn ornest gystadleuol, gyda’r ffigyrau yn adlewyrchu statws cymdeithasol yr ymadawedig, ac yn y pen draw pennwyd uchafswm o ffigyrau allai gael eu defnyddio. Mae’n bosibl taw ymgorfforiad yw hwn o un o’r ceffylau dawnsio a hyfforddwyd yn arbennig yn stablau llys yr ymerawdwr ym mhrifddinas llinach Tang, Chang’an (Xi’an heddiw).
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.