Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Syr Charles Kemeys (1688-1734) ac efallai William Morgan (1688-1699)
Mae’r llun yma'n llawn cwestiynau heb eu hateb. Pwy beintiodd y llun? A phwy sydd ynddo? Rydyn ni’n credu taw Syr Charles Kemeys o Gefn Mabli ar gyrion dwyreiniol Caerdydd yw’r bachgen yn y wisg goch. Mae llythrennau blaen ei enw i’w gweld ar liain cyfrwy’r ceffyl sy’n cael ei arwain gan yr heliwr yn y cefndir. Mae’n ddigon posibl taw William Morgan, o Dredegar yw ei gyfaill yn y wisg frown. Maen nhw’n edrych tua unarddeg oed.
Mae siâp y llun yma wedi newid dros y canrifoedd. Ar un adeg cafodd darnau o gynfas ar y top a’r ochrau eu plygu nôl i’w wneud e’n llai. Mae’r paent ar y ar y darnau hyn yn fwy tywyll am nad yw’r lliwiau wedi pylu cymaint. Heddiw rydyn ni’n dangos y llun ar ei ffurf wreiddiol gyda stribyn o gynfas wedi ei ychwanegu ar y gwaelod, o dan draed y bachgen.
Sylwadau gan ddisgyblion blwyddyn 8 o Ysgol Uwchradd Duffryn, Casnewydd (2008):
Mae’r ddau fachgen llawer yn fwy na’r gwas yn y cefndir am fod y bechgyn yn fwy pwysig rwy’n meddwl. Mae’r gwas yn wedi diflasu am ei fod e’n gorfod dal y ceffyl. Mae’r bachgen mewn coch edrych yn bwysicach na’r bachgen mewn brown. Mae’n pwyntio at ei geffyl ac mae ei ddillad yn fwy pert na dillad y llall. Mae dillad y ddau’n dynn arnyn nhw ac mae sodlau uchel ar eu hesgidiau. Maen nhw’n edrych fel ei bod hi’n anodd iddyn nhw symud.
(Joshua, 13 oed)
Mae’r bachgen mewn coch yn edrych fel pe bai’n dangos ei hun. Dydy’r bachgen mewn brown ddim yn edrych yn rhy hapus. Mae’n siŵr y byddai’n well gan y ddau fod gartref yn chwarae. Mae’r bachgen mewn coch yn edrych yn welw ofnadwy. Mae’r bachgen mewn brown yn edrych yn boeth a sychedig. Mae’n edrych fel bod ganddo bopeth sydd ei angen arno, ond dim byd sydd ei eisiau arno. Mae’r bechgyn yn edrych fel pe baen nhw’n perthyn ond efallai bod tipyn bach o gystadlu rhwng y ddau. (Jacob, 13 oed)