Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr [1959] oddi wrth J.J. Evans (Tyddewi) yn cynnwys casgliad "... o dermau amaethyddol a wnaethpwyd yn 1943 gan Mr John Harries, y Gwynfryn, Tyddewi ..." Ceir cyfeiriadau hefyd at enwau o darddiad Gwyddelig ym Mhenfro - "... dwy fferm ger Casmael - y Lodor Fach a'r Lodor Fawr (lodor = "a miry place" - Dineen). Carwn gynnig esboniad newydd ar Glyn Rhosin. Rhoson yw'r enw o hyd, sef y gair Gwyddeleg roson = "shrubbery". Cil Muine oedd yr enw Gwyddeleg ar Eglwys Fynyw, a'r ystyr a roddir i muin, muine yw "a bush, a bramble". Felly, yr un ystyr oedd i Rhoson, Mynyw a (Hen) Llwyn, (Vetus) Rubus. Ceir Maen Clochog yn Sir Benfro, a gair Gwyddeleg yw Clochog = "a tract of land full of boulder stones ..."
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
MS 943
Derbyniad
Collected Officially
Mesuriadau
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.