Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Esgair Moel Woollen Factory
Dyma adeilad nodweddiadol o lawer o ffatrïoedd bychain a oedd i'w gweld ledled Cymru lle byddai ffermwyr yn dod â'u gwlân i gael ei droi'n frethyn at eu defnydd nhw'u hunain. Codwyd y felin ym 1760 a'i hymestyn i wneud lle ar gyfer peiriannau newydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn dal i weithio tan 1947 ac fe'i symudwyd i'r Amgueddfa ym 1949.
Caiff holl brosesau cynhyrchu brethyn eu cynnal o dan yr un to, o liwio'r cnu i orffen y defnydd. Ceir dau wŷdd llaw a wnaed tua chanol y 18fed ganrif a'u troi'n wyddiau gwennol hedegog yn fuan wedyn. Ceir yma beiriant nyddu a wnaed gan John Davies, Llanbrynmair tua 1830, a chredir mai hwn yw'r unig un o'i fath sy'n dal i weithio. Prynwyd y peiriannau cribo (neu'r "cythreuliaid gwlân") yn ail law ar yr un pryd o felin yn Swydd Efrog. Mae'r olwyn ddŵr fewnol, sy'n gyrru'r holl beiriannau, ar y llawr isaf, ger morthwylion y cyffion pandy.
Mae'r felin yn dal i gynhyrchu sioliau ysgwydd traddodiadol a charthenni Cymreig a welir yn aml wedi'u hymestyn ar y ffrâm ddeintur y tu allan. Mae'r dŵr a ddefnyddir i yrru'r olwyn ddŵr yn cael ei bwmpio o'r pwll islaw, a grëwyd ym 1904 fel pwll nofio ar gyfer Iarll Plymouth a'i deulu.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.