Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: May Maria Laida
“Rwy’n teimlo bod y gaeaf yn heriol ac yn ddychrynllyd i’r henoed y dyddiau hyn... mae’n mynd yn dywyll ac rydych chi’n teimlo’ch bod wedi’ch cau i mewn.”
Ganed May Laida ar ynys Mauritius yn 1946. Cyfarfu â’i gŵr yn yr ysgol; yn chwilio am well cyfleoedd, fe aeth ef ar long i Brydain yn ystod y 60au.
“Bu farw fy mam yn 27 mlwydd oed, ac roeddwn i’n saith oed, ac fe aeth fy nain â fi i fyw gyda hi.” “Yn 1963 neu ’64, cyhoeddodd y llywodraeth dalebau i bobl ddod i Loegr i chwilio am waith... doedd ganddo e [ei dyweddi] ddim proffesiwn da, dim ond labrwr oedd e...”
“Fe gymerodd y cyfle i wneud cais... roedd ei gefnder yn byw yng Nghasnewydd yn barod... roedd yn gorfod chwilio am waith yn gyntaf ac yna fe anfonodd amdana’ i yn ’65. Roeddwn i yma pan oeddwn i’n 18. Fe ddois i ar awyren... VC10 oedden nhw’n ei galw bryd hynny [yr awyren].”
“Roedd yn dref eithaf neis [Casnewydd]... roedden ni’n mynd i’r traeth, roedd yma barciau, lle hardd, lle neis i fynd â nhw... Fe ges i fachgen bach wedyn.”
“Roedden ni’n byw mewn fflat un stafell, roedd yna ystafell ymolchi ond doedd y landlord ddim yn gadael inni ei defnyddio.”
“Roedd yn gyfnod anodd iawn, ond roedd bywyd yn rhad, y stafell yn rhad ac roedd y cyflog ychydig yn llai na £10, felly roedden ni’n byw ar hynny...”
“Roedd gennyn ni rai ffrindiau oedd yn Teddy Boys, ond roedden nhw’n gas iawn [yn Llanwern]...”
“Dwedodd fy nghymydog wrthyf fod Crompton Batteries yn brin o staff... rwy’n cofio prynu pâr o sgidie’ Doctor Martens i fy mab gyda fy nghyflog cyntaf... fe adawais i’r swydd boreau, ond fe ges i swydd yn yr ysbyty gyda’r nosau o 5 tan 8 ac yno fues i nes imi ymddeol, yn 65 mlwydd oed.”
“Mae’n dda cadw eich hunaniaeth, pwy’r ydych chi, wyddoch chi? Y lle ddaethoch chi ohono, peidiwch anghofio’r gwreiddyn hwnnw, peidiwch byth anghofio’ch gwreiddiau [chwardda May].”