Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Saw Mill
Sefydlwyd melin lifio yn Nhy'n Rhos ym 1868, a chodwyd yr adeilad hwn ym 1892 i ddal llif gron newydd oedd yn gweithio â dŵr. Costiodd yr olwyn ddŵr i yrru'r peiriannau £15 ond, tua dechrau'r 1930au, gosodwyd hen injan car Ford Model-T i wneud y gwaith.
John Williams a'i feibion oedd piau'r busnes ac roeddent yn uchel eu parch am wneud gwaith saer a gwneud dodrefn, cartiau a wagenni o safon uchel. Cyn hir, ychwanegwyd siop baent a oedd yn arbenigo mewn gwneud arwyddion a chwistrellu cerbydau masnachol, a phwmp petrol gan fod mwy a mwy o bobl yn dod yn berchen ar geir. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1987.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.