Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Louisa, Ail Iarlles Lerpwl (1767-1821)
Merch 4ydd Iarll Bryste oedd yr Arglwyddes Louisa Theodosia Hervey. Priododd Robert Banks Jenkinson, a daeth yn ail Iarll Lerpwl ym 1808 ac yn Brif Weinidog o 1812 i 1827.Roedd Nollekens yn un o gerflunwyr mwyaf arbennig Prydain yn ystod y genhedlaeth o flaen John Gibson, a châi ei barchu'n fawr am ei bortreadau. Mae'r benddelw hon yn troi at arddulliau clasurol a barôc i greu delwedd sy'n gweddu i gymeriad y gwrthrych. Mae'r cynllun syml a'r gwallt di-drefn yn arbennig o nodweddiadol o benddelwau Nollekens ar ol 1800.