Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Roy Saer a casglu caneuon gwerin yn Sain Ffagan

Penodwyd David Roy Saer i staff Amgueddfa Werin Cymru yn Gynorthwywr Ymchwil ar ddydd Calan 1963. Dyma ddechrau ar flynyddoedd diwyd o gasglu a chofnodi caneuon gwerin Cymraeg drwy recordio unigolion dros Gymru gyfan a chasglu eu hatgofion am yr hen benillion hyn. Dros y degawdau, daeth yn ysgolhaig ar hanes y gân werin, ac fel cydnabyddiaeth o'i wybodaeth eang ar y pwnc, fei etholwyd yn Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 2000. Heddiw, ystyrir Roy Saer yn arbenigwr o fri ar gerddoriaeth werin yng Nghymru ac y maen awdur ar lyfrau ac erthyglau niferus yn trafod cefndir a datblygiad y traddodiad offerynnol a lleisiol.

Gosodwyd seiliau casglu caneuon gwerin yn yr Amgueddfa gan Vincent Phillips, a apwyntiwyd ym 1957. Yr oedd ef, o'r cychwyn, yn gyfrifol am gasglu amrywiol elfennau o'r traddodiad llafar, ac erbyn 1960 ei nod oedd cofnodi holl agweddau bywyd gwerin Cymru, boed trwy recordiadau maes, trwy ddeunydd sain masnachol, trwy lyfrau printiedig neu ffotograffau. Recordiodd Vincent Phillips ryw 300 o ganeuon cyn penodiad Roy Saer, ac yn ei fisoedd cyntaf yn y swydd, gwrandawodd Roy ar recordiadau Vincent au defnyddio fel patrwm iw waith maes ei hunan. Gweithiodd Vincent fel tiwtor i Roy yn y dyddiau cynnar, gydar naill yn hyfforddir llall ar wahanol agweddau'r dechneg o recordio megis y cyfweld a defnyddior peiriannau. Proses ddigon trafferthus oedd recordio unigolion ar ddechraur 1960au, gan fod yr offer mor feichus iw cario. Gwellodd y sefyllfa ym 1964, pan brynodd yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodiaethoedd ddau beiriant Nagra or Swisdir a oedd o safon llawer gwell na'r peiriannau blaenorol.

Bu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ddylanwad pwysig iawn ar Roy or cychwyn cyntaf ac fe fynychodd ei chynhadleddau blynyddol o 1963 ymlaen gan ddysgu llawer oddi wrth yr aelodau. Pan ymaelododd Roy âr Gymdeithas, ychydig iawn o recordio caneuon oedd yn digwydd, felly roedd gwaith casglu a chofnodi yr Amgueddfa Werin yn arwyddocaol iawn yn ei dydd. Y peth pwysicaf o ran y caneuon gwerin felly, oedd eu bwrw i lawr ar bapur, rhag ofn iddynt farw or tir am byth. Gan ddilyn camaur Gymdeithas, byddai Roy'n astudio'r caneuon a gasglwyd ers ffurfior Gymdeithas ym 1906, ac yna'n cofnodi unrhyw newidiadau a datblygiadau a oedd wedi digwydd iddynt dros y blynyddoedd. Aeth Roy hefyd ar ôl y genres gwahanol o ganeuon, er enghraifft carolau Nadolig, Calennig, Mari Lwyd, canu pwnc a cherdd dant.

Recordio pobl oedrannus oedd bwriad prosiect maes yr Amgueddfa, gan mai gyda hwy yr oedd y dystiolaeth lawnaf a hynaf wrth gofio rhai o ganeuon gwerin eu plentyndod. Nid oedd y siaradwyr o angenrheidrwydd yn berfformwyr cyhoeddus, yn wir, cynheiliaid goddefol yn y maes canu gwerin oedd llawer ohonynt. Roedd strwythr y cyfweliadau yn anffurfiol gyda'r bwriad o ddiogelu atgofion au rhoi yn archifau'r Amgueddfa. Anelwyd at recordio'r siaradwyr yn canu yn y ffordd fwyaf naturiol bosibl. Mawr yw dyled yr Amgueddfa ir cantorion hyn, mae eu cyfraniad i'r broses o gynnal y traddodiad canu gwerin yng Nghymru yn un amhrisiadwy. Gwnaethant, yn rhad ac am ddim, gymwynas aruthrol ir Amgueddfa ac ir genedl.

Wrth adysgrifor caneuon ar gyfer cyfrol gyntaf Caneuon Llafar Gwlad, cafwyd cymorth gwerthfawr o'r tu allan i'r Amgueddfa gan y Dr Meredydd Evans a'r Dr Phyllis Kinney - ill dau yn awdurdodau yn y maes. Cyhoeddwyd Caneuon Llafar Gwlad (cyfrol 1) ym 1974, wedi blynyddoedd o ymroddiad diflino gan yr awdur ai gydweithwyr.

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)