Caneuon Gwerin
Cân y Cathreinwr
Mi geso i 'ngwawdd i swpar
Gan ŵr bon(h)eddig (h)awddgar
A chal nidir wedi'i lladd
A phetar gwadd a wiwar! Ma–hw!
Mi geso i 'ngwawdd i gino
A chal pinclwns wedi'u stiwo,
Bara (h)aidd fel r(h)isgil co(e)d;
Ni cheso i 'rio(e)d well greso! Ma–hw!
Tri pheth sy dda gin grotyn
Yw gwraig y tŷ yn w(h)erthin
A'r crochon bach yn berwi'n ffrwd
A llond y cwd o bwdin. Ma–hw!
Tri pheth sy’n gas a lletwith
Yw (h)wch â iwc miwn gwenith,
Atgor gwan yn torri ton
A phac o gryddion llaw–w(h)ith! Ma–hw!
Tri pheth an-(h)awdd eu 'napod:
Dyn, derwan a diwarnod;
Y pren yn gou a'r dydd yn troi
A dyn yn ddouwynepog. Ma–hw!
Gwrando
Tâp AWC 4. Recordiwyd Medi 1953 gan Robert Thomas (ffermwr, g. 1865), Twynyrodyn, ger Gwenfô, sir Forgannwg. Ac yntau ond 13 oed dysgodd RT ganu'r tribannau hyn a'u bath wrth helpu i gathrain (sef gyrru neu symbylu) ychen a oedd yn aredig ar fferm Doghill yn Nyffryn Golych, ger Sain Nicolas.
Nodiadau
Yn aml, llwgr ac anghyson ydoedd ieithwedd y gân hon fel y'i recordiwyd, a cheisiwyd unioni ar bethau wrth ei darparu ar gyfer ei chyhoeddi. Fe welir ei bod yn nhafodiaith Bro Morgannwg. Ers canrifoedd maith bu defnyddio caniadau neu alwadau o ryw fath i annog ychen i weithio. Cofnodwyd amryw enghreifftiau o'r penillion (ynghyd â'r alaw ddiweddol) a genid i'r wedd ychen yn y deheudir. Yno – ac ym Morgannwg yn benodol – y parhaodd yr arfer o aredig ag ychen hwyaf yng Nghymru (hyd tuag 1880). Ar fesur triban y mae'r rhan fwyaf o'r caneuon ychen a gadwyd o Forgannwg. Ceir ymhlith y rhain laweroedd o dribannau serch a thribannau trioedd, i enwi ond dau ddosbarth, ac amlygir yn y goreuon gynildeb ac arabedd anghyffredin. Unedau hunan–gynhaliol yw'r mwyafrif o'r penillion hyn eithr peth arferol wrth ddilyn y wedd aredig oedd llinynnu nifer ohonynt ynghyd a'u canu yn un gyfres.
Cymharer y dôn, uchod, â'r hyn a geir mewn caneuon ychen yn FWTT, 66 ac 20 Alaw Gymreig, gol. W.S. Gwynn Williams (?1950), 16.