Caneuon Gwerin
Yn Dyrfa Weddus
Yn dyrfa weddus, Rhown fawl yn felys, yn ogoneddus iawn,
Gan ganu â'n genau, ffrwyth talentau, mewn odlau lleisiau llawn:
Duw a ddanfonodd Oen ei fynwes er lles i deulu'r llawr,
Mae'r newydd heddiw i'w gyhoeddi am eni'r Iesu mawr.
Daeth Gabriel uchel ryw yn deg o Ddinas Duw
I ddweud am Seilo, Brenin Salem, gan gyncio ei anthem wiw,
Fod gwedi ei eni Geidwad enwog, Eneiniog mawr y Nef,
Gan eilio moliant, golau melys, mewn gorfoleddus lef.
"Gogoniant!" oedd y gân gan luoedd Nefoedd lân
Yn chwarae tannau eu lenynau a'u doniau fel fflam dân,
A moli y Duwdod yn y Dyndod fydd nod eu mawrglod mwy,
Am Geidwad annwyl gwedi ei eni i'n codi o'n c'ledi a'n clwy.
0 dir Effrata i Galfaria, trwy'i yrfa, i derfyn oes,
Cadd dywydd enbyd yn ei fywyd o hyd o'i grud i'w Groes;
Yr hen Iddewon galed galon oedd greulon o bob gradd,
Ac yn gyffredin trwy'r offeiriadaeth elyniaeth am ei ladd –
Ond gweithiai lesu'n rhad, yn debyg iawn i'w Dad:
lachau cleifion, g(o)leuo deillion, tylodion hyd y wlad;
Pregethai ei deyrnas yn ei hurddas i bwrpas yn y byd,
Rhown glod i'r lesu am waredu, i'n prynu daeth mewn pryd.
Ei fywyd pur di–fai a brofai i bob rhai
Mai Mab Duw ydoedd, Aer y Nefoedd, Duw'r Liuoedd, a dim llai;
'Roedd ei weithredoedd yn dweud ar gyhoedd i filoedd yn y fan
Pan oedd yn galw ar y meirw a'u codi yn loyw i'r Ian.
Ond cafodd lesu ei fradychu, a'i werthu gan ei was
Am ddeg ar hugain, a dim yn rhagor, yn drysor i'r di–ras;
A dyma dyrfa yn dod yn arfog yn gefnog ato ar goedd,
A Jiwdas fradwr yn hyfrydu amlygu'r man lle'r oedd.
Ac yna gyda brys cychwynnodd, yn ei chwys,
Yn llawn amynedd, fel oen mwynedd, yn llariedd iawn i'r llys;
Cadd ei gondemnio i'w groeshoelio a'i gwyso ar ei gefn,
Bu farw o'i wirfodd pan y trengodd, a chododd, do, drachefn.
Wei, holwn yn ein hoes am grefydd fawr y Groes,
I'r hwn sy'n credu yn yr lesu, i'w dalu dim nid oes;
Mae gwaed yr lesu yn dadlythrennu holl ddyled teulu'r Tad,
Am hyn diolchwch a chlodforwch, mae'r heddwch inni yn rhad.
Gwrando
Tâp AWC 611. Recordiwyd 21.6.63 gan Watkin Evans (gweithiwr i Gorfforaeth Lerpwl, g. 1906), Llanwddyn, sir Drefaldwyn. Dysgodd WE y garol pan nad oedd ond hogyn bach, o glywed ei chanu gan ei dad, brodor o Langadfan.
Nodiadau
Wrth ganu'r ddau bennill cyntaf yr oedd WE yn hepgor Ilinellau 1. 5–8 a 2. 9–12, eithr codwyd y tri phennill yn gyflawn o Telyn Nadolig (1847), cyfrol o waith barddonol John Williams, Bethel, Llanfyllin, sir Drefaldwyn. Y mae i'r garol yno 7 bennill ac o'r rheini Rhifau 1, 5 a 6 a gynhwysir yn y gyfrol bresennol. Edrydd y garol gyflawn hanes yr lesu a'i gefndir o'r Cwymp yn Eden hyd yr Esgyniad. 0 ran crefft y mae yma blethwaith celfydd o odlau a chyseinedd. (Am nodyn ar garolau traddodiadol Cymraeg, gw. o dan Cân Rhif 5 uchod.)
Fersiwn yw'r gerddoriaeth ar 'The Belle Isle March', tôn y canwyd ami lawer o faledi a charolau Cymraeg. Cyfetyb fersiwn WE yn agos i'r hyn a gyhoeddwyd yn y casgliad carolau, Caniadau Bethlehem (gol. J. D. Jones, 1857). Am fersiwn arall gw. wrth eiriau 'Can y Tren' yn FWTT, 53. Mwy na thebyg bod a wnelo enw'r dôn rywbeth â chyfnod y Rhyfel Saith Mlynedd, pan Iwyddodd Lloegr, wedi gwarchae am dri mis yn ystod 1761, i gipio Belle–Île–en–Mer, ynys bwysig ger arfordir gorllewinol Ffrainc.