Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Rhyfeddod ar Foreuddydd

Land Rover yr Archif Sain.

Rhyfeddod ar foreuddydd fe gaed gwaredydd gwiw,
Ym Methlem ymddangosodd, a Christ yr Arglwydd yw
Mynegwyd i'r bugeiliaid mor rhyfedd oedd y drych
Cael Tad o Dragwyddoldeb mewn preseb lle pôr ych.
Gadawodd sedd ei dad a gwynfyd Nefol Wlad
A dod mor isel, lle pôr anifel, o ryfedd gariad rhad.
Y doethion wiwgu iaith i geisio'r lesu ddaeth,
Caent lewyrch seren gain yn y dwyren i'w harwen ar eu taith.

Mynegwyd i'r bugeiliaid yn awr newyddion da,
Fe gafwyd balm Gilead i'n clwyfau, a'n gwellha.
Disgynnodd o'r uchelder i'r byd ar lafar lef:
"Tangnefedd ar y ddaear! Gogoniant i Dduw Nef!"
Fe ddeuodd yn y cnawd ein Brenin gwiw a'n Brawd,
Heb grud na pharlwr fe ddaeth ein Crewr o'r Wyryf yn dylawd.
Addewid Eden gaeth, i'r byd mewn pryd y daeth
I ddatod hudol waith y Diafol, oedd diben mawr ei daith.

Daeth Iesu i bregethu a gwneuthur gwyrthiau i'r byd,
A hwythau heb ei gredu na rhoddi arno'u bryd.
Y meirw a gyfodai, i'r byddar clyw fe rodd,
A hwythau a'i gwrthododd, nid ydoedd wrth eu bodd.
Cadd dynnu blew ei gern a hirion gwysau i('w) gefn,
Bu'n chwysu dafnau yn Gethsemanau – pwy draetha'i oes i ben? –
Ond Jiwdas, gwas y god, ffalst gusan oedd ei nod,
Gwerth deg ar hugain oedd y fargen am yr Anfeidrol Fod.

Daeth Iesu i Galfaria, a Seimon gariai'i Groes,
Ei Hunan rodd i'r lladdfa am feiau mawr ein hoes;
A'r Tad oedd yno'n gweiddi, "Y cleddyf! Tyrd ymlân!",
A tharo'r Gŵr sydd inni yn gyfaill diwahân.
Fe d'wyllai'r wiwlon wawr pan ydoedd Iesu Mawr
O dan yr hoelion a gwaed ei galon yn llifo ar y llawr.
I'w newydd fedd fe aeth; rhag iddo godi i('w) daith
'Roedd sawdwyr Cesar â'u sêl yn gryfder, a llengoedd uffern faith.

Ond bore'r trydydd diwrnod – mor hyfryd i'w goffáu –
Y Cadarn ddaeth o'i feddrod, a'r lluoedd ffodd i'w ffau.
Yn awr mae agoriadau (y)nglŷn wrth ei wregys E',
I'r Nefoedd fe ddyrchafodd, mae'n Llywydd ar y lle.
Mae'n dadlau yno â'i wa(e)d, i'r dua' gael glanhad:
A ddêl dan guro ei ddwyfron ato a gweiddi "Maddau'n rhad!"
Mae'r ffordd yn rhydd, heb len, hyd entrych Nefoedd wen,
A'r wledd yn barod, a gwadd i'n ddyfod: down iddi, oll, Amen.

Gwrando

Rhyfeddod ar Foreuddydd

Tâp AWC 625. Recordiwyd (penillion 1 a 2 yn unig) 25.6.63 gan John Roberts (ffermwr, g. 1901), Llanymawddwy, Sir Feirionnydd. Dysgodd JR y garol o glywed ei chanu droeon gan ddau ewythr iddo (a oedd hefyd yn frodyr i Ddafydd Roberts, 'Telynor Mawddwy') tua'r cyfnod 1925–33. Cyfeiriai'r teulu at y dôn fel 'Cwplws Dau' neu 'Couple Two'. Rhyw William Edwards, Cae Coch, oedd awdur geiriau'r garol: dichon mai William Edwards (1806–69), Cae Coch, Rhyd–y–main, ger Dolgellau, ydoedd hwn.

Nodiadau

Penillion 1 a 2 yn unig a recordiwyd gan JR y tro hwn, a seiliwyd y testun yn y gyfrol bresennol ar gynnwys llawysgrif garolau ym meddiant y teulu. Fe welir bod 'Rhyfeddod ar Foreuddydd', fel digon o garolau eraill yn Gymraeg, yn trafod llawer mwy na genedigaeth Crist yn unig. Ceir yn y geiriau rywfaint o odli mewnol a pheth cyseinedd, eithr yn lied wan yr adleisir yma ddyfeisiau technegol y garol gynganeddol.

Am nodyn ar garolau traddodiadol Cymraeg, gw. o dan Cân Rhif 5 uchod.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon