Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Deffrwch! Benteulu

Deffrwch! Benteulu.

Deffrwch! Benteulu.

Deffrwch! Benteulu,
Tyma bore'r Flwyddyn Newy'
Wedi dod adre
O fewn y drwse
Drwse yng nghloion,
Wedi eu paro
Drost y nos:
O mistres fach fwyn,
Gwrandewch ar ein cwyn;
Plant ifenc ŷn ni,
Gyllyngwch ni i'r tŷ;
Gyllyngwch ni'n glou
Ynte tyma ni'n ffoi.
Rhowch galennig yn galonnog i blant bach sy heb un ceinog;
Ceinog neu ddime,
P'un a fynnoch chwithe:
Ceinog sy ore.

Gwrando

Deffrwch! Benteulu

Tâp AWC 610. Recordiwyd 9.8.63 gan Miss Selina Griffiths (gwraig tŷ, g. 1880), y Dinas, ger Abergwaun, sir Benfro. Dysgodd SG y rhigwm Calan hwn pan oedd yn ferch fach yn ardal Caersalem, ger Trefdraeth; arferai plant ei ganu o ddrws i ddrws yno ar fore'r Flwyddyn Newydd.

Nodiadau

Ceir yn Gymraeg doreth o rigymau Calan byrion, yn enwedig o dde a gorllewin Cymru. Mae'n debyg y gellir edrych arnynt fel gweddillion hen ganu gwasael tymhorol (a anelai at hybu ffrwythlondeb). Er bod yr arfer o'u defnyddio bron â darfod o'r tir bellach, erys llawer ohonynt yn fyw ar gof gwlad. Peth cyffredin gynt oedd canu nifer o'r rhain yn un gyfres. Cyflwynant eu neges yn gryno: yr hanfodion a geir ynddynt amlaf yw cyhoeddi dyfodiad y Flwyddyn Newydd, dymuno Blwyddyn Newydd dda i'r teulu ac erchi 'calennig' oddi wrtho. Yn amlwg, cenid ambell un o'r rhigymau hyn yn ystod oriau cysgu: galwant ar y teulu i godi o'r gwely. Yr arferiad oedd i wŷr ifainc (a gwŷr yn unig, sylwer) 'fynd mas i ganu' wrth y drysau wedi deuddeg Nos Galan ac i blant wneud hynny yn ddiweddarach yr un bore, o amser codi trwodd hyd ganol dydd. Amrywiai'r rhodd a gai'r cantorion: gallai fod yn 'doc o fara a chaws' neu'n 'gace bach a diod', er enghraifft, yn ogystal â rhodd ariannol.

Am fanylion pellach ynglŷn â defodaeth y Calan yng Nghymru, gw. WFC, 41–7.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)