Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Hen Ladi Fowr Benfelen

Ben Phillips.

Hen ladi fowr benfelen
Yn dod gatre o'r ffair
Gynigodd i mi goron
Am ladd yr wrglo' wair.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

'Roedd yno dwmpie a thampie
A llawer o bridd y wadd
Ac ambell i bishyn garw
Yn anodd iawn i'w ladd.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

'Roedd tonnen ar ei chanol,
Digon o le i shinco Hong;
'Roedd gofyn cal bachgen teidi
Cyn mentro miwn i hon,
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Breddwydies i hen freuddwyd
Ar fore–ddydd y Llun,
Fy mod i yn y gwely
 Gwen oedd wrth fy nghlun.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Gofynse'r hen offeiriad,
"A gymeri di hon yn wraig,
A'i chymeryd hi hyd ange –
0, dyna fel bydd rhaid –
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

A'i chadw hi a'i chynnal,
Yn glaf neu yn iach,
O'r dydd yma allan,
Er gwell neu er gwath?"
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Wei, fe ddeson gatre o'r eglws
Bwtu dri o'r gloch prynhawn;
'Roedd y bordydd oil wedi'u gwisgo
A'r dysgle i gyd yn llawn.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

'Roedd yno win a claret,
Cig berw a chig rost,
A ninnau'll dau, yn ieuanc,
Ddim yn hido beth we'r gost.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Ond d(ih)unes i'r ail fore
Gyda thoriad gwawr y dydd,
A beth oedd wrth fy ochor
Ond twsw bach o bluf.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Ac yn awr 'rwy'n fachgen teidi,
Mae arian gen i'n stor,
A phan ddaw mish y fale
Fi af lawr i ddŵr y môr.
Twdl–di rei–di hei–di ho
Timi wei timi hei timi ho.

Gwrando

Hen Ladi Fowr Benfelen

Tâp AWC 609. Recordiwyd 10.8.63 gan John Thomas (peiriannydd, g. 1912), Abercastell, Mathri, sir Benfro. Pan oedd yn blentyn dysgodd JT y gân hon o glywed ei chanu gan ei ewyrth, Ben Phillips, sef 'Ben Bach' (1871–1958), y canwr gwerin enwog.

Nodiadau

Ymddengys bod yma gyfuno dwy gerdd wahanol, set 'Hen Ladi Fowr Benfelen' (Penillion 1–3) a'r gân am y freuddwyd (4–10). Recordiwyd 'Hen Ladi Fowr Benfelen' gan Ben Phillips i'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn 1952 (Llyfrgell Rhaglenni Sain y Gorfforaeth, Rhif 19069). Gadawodd allan Bennill 2 uchod eithr arferai ei ganu tua Mathri, ac yr oedd ganddo hefyd dri phennill ychwanegol i gloi'r gân. Y mae arwyddocad rhywiol i'r ddelweddaeth dorri gwair yma ac fe'i ceir yn gyffredin mewn caneuon gwerin Saesneg – ar ddefnyddio delweddau'r grefft hon ac eraill mewn canu Saesneg o'r fath gw. yr adran ar 'The Lingua Franca' yn rhagymadrodd James Reeves i'w gyfrol The Everlasting Circle (1959), a hefyd A. L. Lloyd, Folk Song in England (1967), 197–210, 319–21. Yng nghyfrol Reeves ymddengys cerdd ('Buxom Lass') sydd â'i chynnwys yn cyfateb yn lied agos i eiddo 'Hen Ladi Fowr Benfelen' fel y'i cenid gan Ben Phillips.

Y mae pennill olaf y gân am y freuddwyd yn hysbys fel diweddglo'r gerdd ddigri 'Shacki Newi Ddwad', a gyhoeddwyd droeon ar daflenni. Yn ddiddorol ddigon, dyma gerdd arall sydd fel pe bai'n cynnal ail ystyr rhywiol – eithr drwy ddelweddaeth crefft y glöwr, yn hytrach na'r pladurwr.

Y dôn a enwir uwchben 'Shacki Newi Ddwad' ar y daflen yw 'Cân y Melinydd', ac fe welir mai fersiwn ar honno yw tôn 'Hen Ladi Fowr Benfelen' hithau.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon