Caneuon Gwerin
Cob Malltraeth
Os torrith cob Malltraeth fe foddith fy mam;
Mae arnaf ofn yn fy nghalon ti–rai, twli wli
W ofn yn fy nghalon mai fi gaiff y cam.
Mi fedra'i ddim clytio na golchi f'(h)en grys;
Mae (a)rnaf ofn yn fy nghalon, ti–rai, twli wli wli ei,
Mae (a)rnaf ofn yn fy nghalon bydda' i farw ar frys.'
Ond, diolch i'r Nefoedd, fe welwyd 'rhen wraig
Yn llechu'n ddiogel, ti–rai, twli wli wli ei,
Yn llechu'n ddiogel yng nghysgod y graig.
Gwrando
Tâp AWC 69. Recordiwyd 10.9.63 gan T. Morris Owen (swyddog gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, g. 1887), Tyddewi, sir Benfro. Brodor o sir Fôn oedd TMO ac yno, pan oedd yn 12–14 oed, y clywodd ganu'r gân hon gan weision ffermydd a ddoi ynghyd gyda'r nos ym mhentref Llanfachreth, tua 7 milltir o Gaergybi.
Nodiadau
Tua dechrau'r ugeinfed ganrif yr oedd 'Cob Malltraeth' yn gân arbennig o boblogaidd ym Môn – ar arfordir deheuol yr ynys y saif pentref Malltraeth. Gorffennwyd codi'r morglawdd neu'r cob yno yn 1812. Cymh. y dôn ag eiddo Cân Rhif 3 uchod, ac am ddefnyddiau cymariaethol cyffredinol gw. CCAGC, ii, 104–9.