Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Perot ar y Pren Per

Powlen Wasail o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Powlen Wasail o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Ar y cyntaf ddydd o'r Gwyliau
Fy nghariad roes i mi:
Y perot ar (y) pren per.

Ar yr ail ddydd o'r Gwyliau
Fy nghariad roes i mi:
Dwy glomen ddof...

Ar y trydydd dydd...
Tair giar Ffrainc...

Ar y pedwerydd dydd...
Pedair gwydd dew...

Ar y punned dydd...
Pump deryn pert...

Ar y chweched dydd...
Chwe ceffylgyn...

Ar y seithfed dydd...
Saith cusan melys...

Ar yr wythfed dydd...
Wyth ceffyl (yn) cicio...

Ar y nawfed dydd...
Naw ceffyl halio...

Ar y degfed dydd...
Deg swllt ar hugain...

Ar yr unfed dydd ar ddeg o'r...
Un ar ddeg o dwmplins...

Ar y deuddegfed dydd o'r Gwyliau
Fy nghariad roes i mi:
Deuddeg pâr o sgidiau,
Un ar ddeg o dwmplins,
Deg swllt ar hugain,
Naw ceffyl halio.
Wyth ceffyl (yn) cicio,
Saith cusan melys,
Chwe ceffylgyn.
Pump deryn pert
Pedair gwydd dew,
Tair giar Ffrainc,
Dwy glomen ddof,
Y perot ar (y) pren.

Gwrando

Y Perot ar y Pren Pêr

Tâp AWC 609. Recordiwyd 18.9.63 gan John Thomas (peiriannydd, g. 1912), Felin, Abercastell, ger Mathri, sir Benfro. Ac yntau tua 12 oedd dysgodd JT y gân hon oddi wrth ei ewyrth, Ben Phillips, sef 'Ben Bach' (1871–1958), y canwr gwerin enwog.

Nodiadau

Penillion 1, 2, 3, a 12 yn unig a recordiwyd. Y mae fersiwn arall ar hon yn fwy hysbys yng Nghymru: fe'i hadwaenwyd (ac yn y Gogledd yn enwedig, efallai) fel 'Y Cyntaf Dydd (Y Dydd Cyntaf) o'r Gwyliau' neu 'Y Betrisen'. Ceir gwahanol fersiynau hefyd mewn Saesneg (The First Day of Christmas') a Ffrangeg. Dywaid ODNR, 122, i enghraifft gael ei chyhoeddi yn Saesneg tuag 1780 ac mai chwarae cof–a–fforffed ydoedd honno. Dichon mai rhywbeth cyffelyb oedd y fersiynau Cymraeg hwythau mewn cyfnod cynharach. Gwyddys, er enghraifft, fod 'Y Cyntaf Dydd o'r Gwyliau' yn gân orchest; yn gân gynyddol y ceisid canu rhannau ohoni ar un anadl (ac felly yn gyflymach a chyflymach fel yr ymestynnai'r penillion yn raddol). Mae'n dra thebyg ei bod yn draddodiad cystadlu ar ei chanu yn ystod gwyliau'r Nadolig, onid ar Ŵyl Ystwyll (6 lonawr) yn benodol, yn union fel yr arferid cystadlu ar ganeuon gorchest o wahanol fathau ar Ŵyl Fair (2 Chwefror). Am enghreifftiau ychwanegol o 'Y Cyntaf Dydd o'r Gwyliau', gw. CCAGC, i, 175–6, a ii, 283–4. Ar y gân yn Lloegr a Ffrainc, gw. ODNR, 122–4.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)