Mae 'nghariad i mi (w)renta' Yn un o'r merched smarta' Mae'n medru nyddu shidan A thorri'i henw'i hunan: Ag M ac A ac G ac I, Ag M ac A ac G ac I, A Double U for "William".
Gwrando
Magi Wiliam
Tâp AWC 610. Recordiwyd 20.9.63 gan ganwr a'i dysgodd yng Nghwm Gwaun, ger Abergwaun, sir Benfro, tua diwedd y ganrif ddiwethaf.
Nodiadau
Mae'n amlwgoddi wrth y 'gorchestion' a ganmolir ynddi mai i oes a fu y perthyn y gân lawen hon.