Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Fenyw Fain

D. Roy Saer.

Trafaeliais i dre Llundain,
Do, do, hefyd drefydd mawr.
Do, do, hefyd Sbaen a Sgotland,
Do, do, hefyd Sbaen a Sgotland,
Do, do. hefyd Sbaen a Sgotland,
I chwilio am fenyw fain.


'Roedd yn ei chorff yn gymwys
Ac yn ei gwast yn fain,
0, a'i dwylo bach cyn wynned,
0, a'i dwylo bach cyn wynned,
0, a'i dwylo bach cyn wynned,
 blodau pigau'r drain.

Ar ô1 i ni briodi,
Gael dau o blantws bach;
Fe fydd un yn uwch na'r gadair,
Fe fydd un yn uwch na'r gadair,
0, fe fydd un yn uwch na'r gadair,
A'r Hall yn damaid bach.

Gwrando

Y Fenyw Fain

Tâp AWC 609. Recordiwyd 21.9.63 gan William Rowlands (gwerthwr glo, g. 1888), Treletert, sir Benfro. Clywodd WR y gân hon yn ardal Llanychar, ger Abergwaun, pan oedd tua 17 oed.

Nodiadau

Yng ngogledd sir Benfro y cofnodwyd yr unig enghraifft arall y gwyddys amdani o'r gân hon. Gw. CCAGC, iv, 106.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon