Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Cân yr Ysbrydion

Cân yr Ysbrydion.

Mi es pan oeddwn fychan,
At Sion y Gof i'r Cellan
I mofyn harn at dorri mawn
Ar ryw brynhawn fy hunan.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

'Roedd Wil a Lewys Leyshon
Yn gwella bachau crochon,
A Siorsi Wil a Sioni Sam
Yn siarad am ysbrydion.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Yn sôn am Wrach y Rhibyn,
Y Tylwyth Teg a'r Goblyn,
A rhyw gyhyraeth drwg ei nad
A gadwai'r wlad mewn dychryn.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Daeth Wiliam Puw o'r Felin
A Nel i mewn dan chwerthin
Wrth sôn am ysbryd Mari Mwm
Yn dilyn Twm Penderyn.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Fe welwyd ysbryd milgi
Ar ael y bryn yn croesi,
Ac ysbryd gwas y Gelli Thorn
Ag ysbryd corn yn canu.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

'Roedd ysbryd cathau'n mewian,
Ac ysbryd ieir yn crecian,
Ac ysbryd morwyn Siorsi Wil
Yn chwyrnu 'nghil y pentan.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

'Roedd ysbryd Sian yn cribo
A nyddu dan ei dwylo,
Ac ysbryd Georgie bach Penhill,
Ac ysbryd Wil yn siafo.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

'Roedd ysbryd Bilo'r Bwtsiwr
Yn croesi pont Caslwchwr
Yn peri dychryn i'r holl wlad
Wrth ddilyn Deio'r Badwr.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Mae weithiau ysbryd angladd –
Y mawr a'r bach yn gydradd –
Ac ysbryd moch yn cadw sŵn,
Ac ysbryd cŵn yn ymladd.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Ac ysbryd gwraig mewn urddas
Yn prynu ysbryd canfas;
Ac ysbryd plân a bwyell sa(e)r,
Ac ysbryd sgwâr a chwmpas.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.

Ac ysbryd rhai yn cychwyn
I wneuthur ysbryd coffin,
Ynghyd ag ysbryd hir ei gam
Yn rhedeg am y cortyn.
Sing di–wac, ffoldi ridldi rai
Ffoldi ridldi rai do.
 

Gwrando

ââCân yr Ysbrydion

Tâp AWC 635. Recordiwyd (Penillion 1–3 a 5–8 yn unig) 14.2.64 gan Mrs. Edith Edwards (g. 1881), Ystradgynlais, sir Frycheiniog. Pan oedd EE yn blentyn ar fferm ei theulu yng Nglyntawe dysgodd y gân hon o glywed ei chanu gan ei thad, brodor o Lyntawe.

Nodiadau

Saith pennill yn unig o'r gân a recordiwyd eithr cyhoeddir 11 yn y gyfrol hon – codwyd y penillion ychwanegol oddi ar daflen faled (?19eg ganrif) sy'n cynnwys 18 pennill i gyd. Yn amlwg, bu i drydydd pennill y gân (mewn ffurf ychydig yn wahanol) ei gylchrediad annibynnol gynt ar lafar gwlad – gw. Hen Benillion, gol. T. H. Parry–Williams (1940), 57. Cerdd ddi–ffurf, gatalogaidd, yw'r cyfanwaith (sydd ar fesur triban, gyda Haw), er bod ei chyflawnder o gyfeiriadau lleol yn debyg o fod wedi apelio'n fawr at gynulleidfa gyfyng pan ymddangosodd y gerdd gyntaf. Ar y daflen enwir 'Deio Bach y Cantwr' fel yr awdur. Digwydd enw'r un gŵr ar daflen arall wrth gân 'Llais yr Unig, sef Cwynfan Dafydd Williams, hen weithiwr tan (sic) agos i ddeugain mlynedd, wedi colli grym ei olygon, a thrwy hynny yn methu dilyn ei alwedigaeth'. Dywaid 'Llais yr Unig' i Ddeio gael ei fagu yn Nhreforys (ger Abertawe) ac iddo weithio mewn amryw leoedd ym Morgannwg: yng Nghyfarthfa, Dowlais, Pen–y–cae, Cwmafan a Llansawel (Briton Ferry). Dichon mai'r un gŵr hefyd oedd y 'Deio Bach' yr argraffwyd nifer o'i gerddi ar daflenni.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon