Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Cân y Cwcwallt

Peiriant Recordio Cynnar.

Mi eis i lawr i'm stabal
Fel yn yr amsar gynt,
'Roedd yno geffyla gwynion
Yn mesul saith a phump;
Dychwelais at fy mhriod,
Gofynnais iddi hi
Beth oedd (y) ceffyla gwynion
Oedd yn fy stabal i.
Atebai hitha "Gatffwl!
Ai dwl ai dall wyt ti?
Ond dwsin o gŵn hela
A roes fy mam i mi?"
Trafaeliais yr Amerig
A'r India fawr ei bri
Ond pedola dan gwn hela
Erioed nis gwelais i!

Mi eis i lawr i'm coetshws
Pel yn yr amsar gynt
,'Roedd yno goetsh carriages
Yn mesul saith a phump;
Dychwelais at fy mhriod,
Gofynnais iddi hi
Beth oedd y coetsh carriages
Oedd yn fy nghoetshws i.
Atebai hitha, "Gatffwl!
Ai dwl ai dall wyt ti?
Ond dwsin o drolia teilo
A roes fy mam i mi ?"
Trafaeliais yr Amerig
A'r India fawr ei bri
Ond springs dan drolia teilo
Erioed nis gwelais i!

Mi eis i lawr i'm selar
Pel yn yr amsar gynt
'Roedd yno gasgia cwrw
Yn mesul saith a phump;
Dychwelais at fy mhriod,
Gofynnais iddi hi
Beth oedd y casgia cwrw
Oedd yn fy selar i.
Atebai hitha, "Gatffwl!
Ai dwl ai dall wyt ti?
Ond dwsin o botia menyn
A roes fy mam i mi ?"
Trafaeliais yr Amerig
A'r India fawr ei bri
Ond feis dan botia menyn
Erioed nis gwelais i!

Gwrando

Cân y Cwcwallt

Tâp AWC 829. Recordiwyd 11.9.64 gan William Henry Ellis (gyrrwr lori, g. 1897), Mynytho. ger Pwllheli, sir Gaernarfon. Cafodd WHE y gân hon gan fachgen arall o Fynytho, pan oedd tua 10 oed. Yr oedd pennill ychwanegol ar lafar gynt yn yr ardal eithr nis cofiwyd gan WHE ar adeg ei recordio.

Nodiadau

Cynrychiola'r uchod yr unig fersiwn hysbys yn Gymraeg ar gân 'Our Goodman' (Rhif 274 yn y casgliad enwog The English and Scottish Popular Ballads, a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 1882–98 o dan olygyddiaeth Francis James Child*). Adwaenir hon wrth amryw enwau ychwanegol yn Saesneg: The Cuckold's Song', 'Five (Seven) Nights Drunk', 'The Old Farmer and His Young Wife', etc. Dywedir iddi ddeillio o ganu'r trwbadwriaid yn yr Oesoedd Canol a daeth yr hanes a edrydd yn gyfarwydd mewn cerddi a liên gwerin drwy Ewrop a'r gwledydd Saesneg eu hiaith. Yn yr enghreifftiau cyflawn o'r gân y diweddglo arferol yw i'r cwcwallt ddarganfod pen gŵr diarth ar y glustog yn ei wely.

Cymh. y dôn uchod â'r un y cenir geiriau 'Baa, baa, black sheep' ami (sef y dôn Ffrengig 'Ah vous dirai je') a hefyd â thân 'Hafod yr Aeres' yng nghasgliad Nicholas Bennett, Alawon Fy Ngwlad (1896). Am ddefnyddiau cymariaethol o ran geiriau a cherddoriaeth, gw. yn arbennig The Traditional Tunes of the Child Ballads, gol. Bertrand Harris Bronson, iv (1972), 95–129.

*0 ran eu geiriau ymddengys mai ychydig yn unig o faledi casgliad Child a gynrychiolir gan fersiynau yn yr iaith Gymraeg. Yn ychwanegol at 'Our Goodman', enghreifftiau y mae ffurfiau Cymraeg arnynt yn bod ydyw 'Lord Randal' (Child Rhif 12) – sef 'Mab Annwyl Dy Fam' yn Gymraeg –, 'Young Beichan' (53), a'r gân bosau – 'I will give my love an apple without e'er a core ...' yn ô1 un geiriad – sydd hefyd yn rhan o 'Captain Wedderburn's Courtship' (46). Ceir eto yn Gymraeg fersiwn o faled William Grismond, a grybwyllir gan Child wrth drafod 'Brown Robyn's Confession' (57). O'r rhain, hyd y gwyddys, 'Lord Randal' ac 'Our Goodman' yn unig a gofnodwyd yn cael eu canu yn Gymraeg ar lafargwlad – mewn ffynonellau llawysgrifol neu brintiedig y ceir y lleill, a hynny heb gerddoriaeth wrthynt.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon