Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Bardd a'r Gwcw

Y Gwcw.

Y Gwcw.

O'r gwcw fach lwydlas, lle buost ti cyd
Mor hir heb ddychwelyd?
Ti fuost yn fud.
Mor hir heb ddychwelyd?
Ti fuost yn fud.

Y GWCW:
0, peidiwch camsynied a meddwl mor ffol,
Yr oerwynt o'r gogledd a'm daliodd i'n ô1.
Yr oerwynt o'r gogledd a'm daliodd i'n ô1.

Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai
A banner Mehefin, chwi wyddoch, bob rhai.
A banner Mehefin, chwi wyddoch, bob rhai.

Ffarwel i chwi 'leni, ffarwel i chwi oil,
Cyn y delwyf i yma nesa bydd miloedd ar goll.
Cyn y delwyf i yma nesa bydd miloedd ar goll.

Bydd llawer merch ifanc yn isel ei phen
Cyn y delwyf i yma nesa i roi caniad ar bren.
Cyn y delwyf i yma nesa i roi caniad ar bren.

Gwrando

Y Bardd a'r Gwcw

Tâp AWC 820. Recordiwyd 7.10.64 gan William Jones (gof, g. 1906), Aberdaron, sir Gaernarfon. Clywodd WJ y gân hon gan ei daid, John Jones (c. 1829–1918), a oedd yn frodor o Lŷn.

Nodiadau

Canwyd yn Gymraeg doreth o gerddi sy'n annerch adar, a'r gwcw a ymddengys mewn llaweroedd o'r rhain. Lluniwyd ymddiddan cartrefol 'Y Bardd a'r Gwcw' gan Daniel Jones ('Daniel Sgubor', 1777?–1859), gwaddotwr. Trigai mewn tŷ o'r enw 'Sgubor ar dir Castell–hywel, heb fod nepell o'r ffordd a red o Landysul i Lanbedr Pont Steffan, sir Aberteifi. Am ychydig o'i hanes gw. W. J. Davies, Hanes Plwyf Llandyssul (1896), 248. Cyhoeddwyd y gerdd yn HPLI, 267–8, a hefyd yn CCAGC, i, 205. Yn y ffynonellau hyn y mae dair gwaith hyd yr uned a recordiwyd, eithr penderfynwyd cyhoeddi enghraifft anghyflawn Aberdaron fel y saif, heb geisio'i chyfuno â fersiwn HPLI. (Yn un peth y mae nifer o'r penillion yn y gerdd wreiddiol yn cynnwys cyfeiriadau lleol o fro Daniel Jones.) Bu gynt fri arbennig ar 'Y Bardd a'r Gwcw' yn ne–orllewin Cymru ond crwydrodd ffurf anghyflawn ami i'r Gogledd hefyd. Ymddengys bod ar lafar gwlad gryn gymysgu rhyngddi a chân arall, 'Y Gog Lwydlas' – peth naturiol gan fod y ddwy ar ffurf ymddiddan rhwng y bardd a'r gwcw, yn cyfateb ar brydiau o ran rhediad eu sgwrs, a hefyd ar yr un mesur. Yn y fersiwn a recordiwyd, o gerdd 'Y Gog Lwydlas' y daeth y trydydd pennill ynghyd a'r ansoddair 'llwydlas' yn nechrau'r pennill cyntaf. Cymh. y dôn yn y gyfrol bresennol â'r fersiynau a gyhoeddwyd eisoes (gogyfer a'r un gerdd) yn CCAGC, 1,128,206, a iv, 93.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)