Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Os Daw fy Nghariad i Yma Heno

Llwy Garu o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Os daw fy nghariad yma heno, yma heno, yma heno
Os daw fy nghariad yma heno i guro'r gwydyr glas.
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo, gweddus iddo
Rhowch ateb gweddus iddo. Na 'thebwch mono'n gas.

Nad ydy'r ferch ddim gartre, y ferch ddim gartre, 'r ferch ddim gartre,
Nad ydy'r ferch ddim gartre, na'i hwyllys yn y tŷ;
Llanc ifanc o'r plwy arall, o'r plwy arall, o'r plwy arall,
Llanc ifanc o'r plwy arall sydd wedi mynd â hi.

Gwrando

Os Daw fy Nghariad Yma Heno

Tâp AWC 817. Recordiwyd 9.10.64 gan Thomas Williams (postmon, g. 1899), Sarn Mellteyrn, ger Aberdaron, sir Gaernarfon. Yr oedd y gân hon yn boblogaidd iawn ymysg gweision ffermydd ym Mhen Llŷn pan ddysgwyd hi gan TW yn ystod y biynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon