Caneuon Gwerin
Galarnad Cwch Enlli
Clywais waedd dros ddyfnfor heli –
Tristlawn gri o Enlli oedd –
Gwaedd uwch rhuad gwynt ysgeler
A mawr flinder mor a'i floedd;
Gwaedd y gweddwon a'r amddifaid,
Torf o weiniaid: darfu oes
Gwŷr a thadau yn y tonnau,
Llynnau, creigiau, llanw croes.
Y dydd olaf o fis Tachwedd,
Oer ei wedd gan arw wynt,
Un mil wyth gant a dwy ar hugain
Y bu sain wrth'nebus hynt;
Aeth cwch esgud dan ei hwyliau,
Cedyrn daclau, gorau gwaith,
O Borth Meudwy tuag Enlli
Hyd y Ili' rhuadwy llaith.
Yr oedd ugain o bersonau
A maddiannau gorau gwerth
Yn y cwch pan troesant allan
Gyda'r lan, lie syfrdan serth;
Penycil iddynt fu gysgodol,
Orllewinol noddol nawdd;
Deheuol safn y Swnt cyrhaeddent,
Heibio hwylient, ni bu hawdd.
Wele, golau haul a giliai,
Lleuad godai, llwyd ei gwawr,
Gwynt o duedd y gorllewin,
Goflin ddrycin, erwin awr;
Y môr, megis pair berwedig,
Tra chwyddedig, trechai ddawn
Y mor–ddynion. Pwy amgyffred
Hyd a lled eu lludded llawn ?
Môr trochionllyd a therfysglyd,
Cyhwfanllyd acw fu;
Tonnau cedyrn dyrchafedig,
Ffyrnig ddymchweledig lu;
Uwch ei ruad na tharanau
Neu sŵn gynnau maes y gwaed:
Y fath dymestl, fyth, at Enlli,
Ynys heini, na nesaed!
Dacw'r cwch bron iawn yn noddfa
Diogelfa cuddfa'r Cafn;
Dacw Angau yn agoryd
Ei gas enbyd wancus safn;
Ef ar dir a môr sy gapten Hen –
i ben y myn ei bwnc;
Iddo ef mae pawb yn gydradd,
Baidd eu lladd, y bedd a'u llwnc.
Hyd rhaff angor prin oedd rhyngddo
Fo a lanio yn ei le
Pan, mewn cymysg derfysg dirfawr,
Trawodd lawr ar graig fawr gre'
Ei ochr ddrylliwyd gan y dyrnod,
Erchyll drallod, archoll drist;
Dyled pawb yw gwylio beunydd–
O mor ddedwydd crefydd Crist!
Paham, awel, y cynhyrfi?
Ti, os plygi y Supply
A dinistrio llong mor fechan,
Llid a thuchan, gogan gei;
Tafl y creigiau i'r rhyferthwy,
Gwasgar hwy, ruadwy wynt;
Bydd i'r llongau'n gynorthwyol:
Cei dy ganmol, haeddol hynt.
Gweision ydyw'r gwynt a'r tonnau
Yn cwblhau, yn ddiau, ddeddf
Ac ewyllys eu Creawdwr;
Sŵn Ei gryfdwr sy'n eu greddf;
Pan ddywedo "Byddwch wrol!",
Yn ô1 Ei nerthol air hwy wnant;
Os rhaid gyda pheri adfyd
Foddi hefyd, ufuddhant.
Sugnwyd chwech i safn Marwolaeth,
A Rhagluniaeth yn rhoi glan
1 bedwar dyn ar ddeg ohonynt –
Da fu'r helynt, Duw fo'u rhan;
Yn ô1 eu dawn, i feibion dynion
Mae'r fath droeon chwerwon chwith
Yn arddangos yn dra golau
Y daw Angau ymhob rhith.
Thomas Williams, y llong–lywydd,
Heddiw sydd a dydd ei daith,
Hyd ei yrfa, wedi darfod
Ar y gwaelod, oera' gwaith;
A'i ferch Sidney yr un ffunud,
Yr un munud, i'r un man;
Hyll i hon oedd golli'i heinioes,
Garw loes, wrth gwr y lan.
Pe rhyw les fuasai dyfais,
Anian ymgais, dyn a'i nerth,
Ni threngasai Ellis Gruffudd
Yn y cystudd tonnog certh,
Na Dafydd Thomas o Bantfali
Yn yr heli anwar hallt;
Taflai'r môr rai llai eu hawgrym,
Yn nydd ei rym, i nawdd yr allt.
Cyrff y pedwar uchod cafwyd
A derbyniwyd gan dŷ'r bedd;
Tua hwn mae pawb a'u trafael –
O mor wael yw marw wedd!
Mae Ty, er datod y daearol,
Eto'n ô1 gan ddwyfol ddawn
I'r cyfiawnion: cant o'r beddrod,
Ddydd i ddod, ollyngdod llawn.
Ond John Jones a William Williams,
Enwau dinam, sy'n y don;
Am hyn mae chwanegol gystudd,
Och! llwyr brudd, uwch llawer bron;
Yno'u hesgyrn a wasgerir:
Cesglir, dygir, hwy bob darn
Pan cano'r utgorn uwch yr eigion,
"Codwch, feirwon! Dewch i farn!"
Tad trugarog llawn addfwynder,
Dy wir dyner arfer yw
Llwyr fendithio dyrys droeon
Er rhybuddion i'r rhai byw;
Gwna i'r gweddill a adawyd
Fyw yn d'arswyd a'th ofn dwys,
A Gair dwyfol boed eu rheol
Gydwybodol yn gyd–bwys.
Cafodd gweddwon gennyt ddigon
O'th fendithion, rhoddion rhad;
Ti i'r gwŷr amddifaid gwirion
Fuost ffyddlon dirion Dad;
Boed i'r un drugaredd eto
Fuan wawrio, addfwyn wedd;
Gweddwon ac amddifaid Enlli
Gaffo'i phrofi hi a'i hedd.
Drwy'r holl ynys treiddied sobrwydd,
I'th Air, llwydd a rhwydd fawrhad;
Tyn ei phobl i'r wir ymgeledd
0 fewn hedd y Cyfiawnhad;
Boed eu gweddi hwy bob ennyd
Pan ar hyd terfysglyd fôr:
"Arglwydd, ar y gwynt a'r tonnau,
Cau dy ddyrnau, cadw ddor".
Tro galonnau gwŷr y llongau
Trwy holl barthau bannau byd
I gydnabod ac i gredu
Mai Ti sy'n meddu'r gallu i gyd;
Dangos iddynt nad oes noddfa,
Diogelfa, ond y Gŵr
A wyr rif y sêr a'u henwau,
Rhif a phwysau'r dafnau dŵr.
Gwrando
Tâp AWC 820. Recordiwyd (Pennill 11 yn unig) 7.10.64 gan William Jones (gof, g. 1906), Aberdaron, sir Gaernarfon. Yr oedd hon yn un arall o'r Iliaws caneuon a glywodd WJ gan ei daid, gŵr a fu'n byw ym Mhen Llŷn ar hyd ei oes.
Nodiadau
Pennill Rhif 11 yn unig a recordiwyd, eithr yn ddiweddarach codwyd y gerdd yn gyflawn oddi ar daflen faled. Galarnad ydyw i'r chwech o bobl a foddwyd pan suddodd y cwch 'Supply' ger Ynys Enlli ar y dydd olaf o Dachwedd, 1822. Gŵr lleol oedd yr awdur: 'leuan Lleyn' (Evan Pritchard, 1769–1832), y bardd o Fryncroes, tua phedair milltir o Aberdaron. Y mae'r alarnad yn llawn o gyffyrddiadau cynganeddol deheuig, ond aml–eiriog a chwyddedig yw ei hieithwedd. Cymh. y dôn â'r ceinciau 'Diniweidrwydd' yn CCAGC, ii, 171–3, ac yn arbennig â'r enghraifft o Lŷn (ynghyd â geiriau 'Y Pren Gwyrddlas') yn CCAGC, i, 36.