Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Cap o Las Fawr

Cap o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Cap o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Mae gen i chwaer, Mari, â chap o las fawr,

 las yn troi i fyny,
Rym–ti dwd–li da–am,
 las yn troi i fyny a las yn troi i lawr.

A llathen a hanner o galico côn:
Wel sut y ca'i dalu,
Rym–ti dwd–li da–am,
Wel, sut y ca'i dalu heb wybod i Siôn?"br />
"Wel, codwch yn fore a daliwch yn hwyr,
A dyrnwch a nithiwch,
Rym–ti dwd–li da–am,
A dyrnwch a nithiwch y gwenith yn llwyr."

Gwrando

Y Cap o Las Fawr

Tâp AWC 171. Recordiwyd 30.4.59 gan Miss M. M. Williams (athrawes, g. 1894), Brynsiencyn, sir Fôn. Pan oedd yn blentyn bach dysgodd MMW y gan oddi wrth ei thad, brodor o Frynsiencyn, a chredai iddo ef ei chodi ar y llofft stabal (sef ystafell y gweision) pan oedd yn was fferm.

Nodiadau

Yn CCAGC, ii, 105, dyfynnir Ilinellau cyfatebol i'r uchod fel rhai a genid gynt yn y Gaerwen, Môn, yn rhan o'r gân 'Cob Malltraeth'. Cymh. hefyd y dôn a cherddoriaeth 'Cob Malltraeth' yn CCAGC, ii, 104–9, neu yng Nghân Rhif 17 uchod. Sylwer ar y byrdwn disynnwyr – y mae hyn yn rhywbeth y trewir arno droeon mewn caneuon gwerin a gofnodwyd ym Môn, e.e., yn 'Cwyn Mam–yng–Nghyfraith', 'Fy Meddwl a Fy Malais', a'r caneuon 'Ram', yn ogystal a 'Cob Malltraeth'.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)