Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Cân y Grempog

Gwneud Crempog (o Archifau'r Amgueddfa).

Wraig y tŷ a'r teulu da,
Os gwelwch chi'n dda, ga'i grempog?
Mae Mam rhy dlawd i byrnu blawd
A 'Nhad rhy ddiog i weithio.
Os gwelwch chi'n dda ga'i grempog?
Mae 'ngheg i'n grimp am grempog.
Os nad oes menyn yn y tŷ
Rhowch lwyad fawr o driog,
Ac os nad oes triog yn y tŷ
Rhowch grempog fawr gynddeiriog, gynddeiriog, gynddeiriog.

Gwrando

Cân y Grempog

Tâp AWC 819. Recordiwyd 9.10.64 gan Thomas Williams (postmon, g. 1899), Sarn Mellteyrn ger Aberdaron, Sir Gaernarfon. Pan oedd TW yn hogyn cenid y rhigwm hwn gan blant ym Mhen Llŷn wrth fynd o gwmpas tai i ofyn am grempog ar Ddydd Mawrth Ynyd (a syrth yn rhywle rhwng tuag wythnos gyntaf Chwefror ac ail wythnos Mawrth).

Nodiadau

Mewn rhannau o ogledd Cymru (ac yn siroedd Môn a Chaernarfon yn enwedig, fe ymddengys) parhaodd yr arfer o 'hel crempog' hyd y ganrif bresennol, eithr darfu bellach. Dydd Mawrth Ynyd ('Diwrnod Crempog'), yn union cyn dechrau'r Grawys, oedd y diwrnod traddodiadol i fwyta crempogau, ac ai plant o ddrws i ddrws i gardota amdanynt (neu am flawd a bloneg ar gyfer eu gwneud). Yr oedd yr arfer yn gyffredin hefyd y tu allan i Gymru. Peth cyfatebol oedd 'shroving' yn Lloegr, er enghraifft, ac mae'n werth cymharu 'Cân y Grempog' â'r rhigwm canlynol a genid gynt ar yr un diwrnod gan blant Sunningwell, swydd Berkshire:


'Pitt a patt, a pan's hott
l am come to scroving [shroving]
Lard's scarce and flour'sdear
I cannot sing no Ionger,
My throat is so dry'

(A. R. Wright a T. E. Lones, British Calendar Customs: England, i, 16).

Ar 'hel crempog' yng Nghymru gw. WFC, 72–5. Cymh. geiriau a thôn y rhigwm o'r Sarn â'r hyn a geir yn CCAGC, iii, 26–7.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon