Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Dyma Wyliau Hyfryd Llawen

Robert Thomas Evans.

Dyma Wyliau hyfryd llawen
Y cafwyd lesu Grist yn fachgen;
Yng nghor yr ych ym Methlem Jiwda
Y ganwyd Ef o groth Mareia.
Agorwyd yno'r drugareddfa
Oedd wedi ei chau er codwm Adda;
Gan Fab Duw'r oedd agoriadau
I agor drysau yr holl drysorau.

Fe gafwyd yno berlau hyfryd
I oleuo'r ffordd i Dir y Bywyd,
A chafwyd olew, heb ddim mesur,
I'w roi ym mriwiau pob pechadur.
Yno caed y pur awelon
I wneud yn fyw'r holl esgyrn sychion
Oedd yn y dyffryn gynt cyn lawned
A thir yr Eifftied o locustied.

Yno cafwyd meddyginiaeth
I rai clpffion rodio'n berffaith,
Y dall i weled a'r mud lefaru,
A gwahangleifion wedi hynny.
Ni bu erioed un doctor ffisig
Ar y ddaear, nac un meddyg,
Yn gyffelyb i'r Meseia,
Sef y doctor mawr eneidia.

Fe gynigiodd lesu tirion
Ei iachawdwriaeth i'r Iddewon;
Am ei gariad fe gadd gerydd,
Bu yntau iddynt yn faen tramgwydd.
Dioddefodd goron ddrain a'i wawdio,
Ei fflangellu a'i gernodio;
Yn y diwedd cadd, mewn dieter,
Ei groeshoelio rhwng dau leider.

Pan oedd lesu Grist yn dioddau,
Haul y Nefoedd fawr dywyllai;
Y ddaear lawr, fe grynodd hithau
Pan oedd lesu Grist mewn poenau.
Y trydydd dydd ar ô1 ei gladdu,
Er gwaethaf angau, codai i fyny,
Ac aeth at ei wir ddisgyblion
I ddangos iddynt ô1 yr hoelion.

Ymhen y deugain dydd, mewn llwyddiant,
Yr aeth i Nefoedd y Gogoniant,
I eiriol dros yr etifeddion
Sydd ar y ddaear mewn peryglon,
A phan ddelo eto i farnu
Rhaid i bawb ar sydd yn pydru
Yn y môr a'r tir ymburio
I roddi cyfri o'r hyn aeth heibio.

Rhown fawl, "Hosanna! Haleliwia!",
0 glod i'r Oen fu ar Galfaria,
Am iddo roi ei waed yn ffrydia
Er mwyn i ni gael llwyr ddihangfa.
Gogoniant fyth i enw'r lesu
Am ein cadw a'n diogelu;
Dwg ni, 0 Dduw, i'th Nefoedd lawen,
Amen, Amen, ni oil ddymunem.

Gwrando

Dyma Wyliau Hyfryd Llawen

Tâp AWC 306. Recordiwyd (chwe phennill yn unig) 25.10.60 gan Robert Thomas Evans (ffermwr, g. 1880), Dinas Mawddwy, sir Feirionnydd. Dysgodd RTE y garol ar yr aelwyd. Pel 'Hen Garol Perthyfelin' y'i hadwaenid gynt yn lleol, oherwydd ei chanu'n gyson gan y teulu ar hyd cyfarfodydd plygeiniau yn y fro. 'Y Ceiliog Du' oedd yr enw a roid ar y dôn.

Nodiadau

Chwe phennill yn unig a recordiwyd: codwyd y gweddill o lawysgrif leol. Ni wyddys pwy biau geiriau'r garol.

Yn ystod canrifoedd diweddar bu bri arbennig ar y gwasanaeth plygain a'i garolau Nadolig mewn rhannau o ogledd Cymru. Hyd tua ail hanner y ganrif o'r blaen cynhyrchodd beirdd gwlad gannoedd o garolau Cymraeg, rhai cynganeddol a fwriedid i'w canu ar geinciau llafar gwlad. (Sylwer, fodd bynnag, nad cynganeddol mo geiriau'r enghraifft uchod.) Fel arfer yr oedd y cyfansoddiadau hyn yn faith, ac yn hoff o foesoli ac athrawiaethu. Peth cyffredin ynddynt oedd rhoi braslun o hanes bywyd Crist ac nid anaml y byddent yn bwrw golwg yn ô1 at y Cwymp yn Eden neu ymlaen at Ddydd Barn.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon