Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Si So, Gorniog

Llew Evans.

Si so, gorniog, ennill tair ceiniog:
Ceiniog i mi a cheiniog i ti
A cheiniog i Siôn am fenthyg y lli'.

Si so, gorniog, dal tair sgwarnog:
Deunaw i mi a deunaw i ti
A deunaw i Twm am fenthyg y ci.

Gwrando

Si So, Gorniog

Tâp 615. Recordiwyd 18.4.63 gan Llew Evans (ffermwr, g. 1890), Rhyd–y–main, Dolgellau, sir Feirionnydd. Arferai ei fam ganu'r rhigymau hyn i LIE pan oedd yn blentyn bach ar aelwyd Ystumgwadneth.

Nodiadau

Diddorol yw'r cyfeiriad at lif yn niwedd y pennill cyntaf: yn ô1 ODNR, 297, dichon i rai rhigymau 'See-saw ...' yn Saesneg ddeillio o ganu gwŷr wrth lifio coed. Cofier hefyd fod delwedd Ilifio yn ymddangos droeon mewn rhigymau plant yn Gymraeg, e.e., yn 'Llifio, Ilifio, coed Llandeilo/Llangrallo ,,,', 'Llifio, Ilifio, Ilifio'n dynn ...' a 'Llifio, Ilifio, ceiniogydydd ...' Mae'n sicr i'r rhain gael eu defnyddio'n helaeth fel rhigymau siglo i ddifyrru plant bychain.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon