Casgliad y Chwiorydd Davies
Casglodd Gwendoline Davies (1882–1951) a Margaret Davies (1884–1963), dwy chwaer ddi-briod o ganolbarth Cymru, un o gasgliadau celf pwysicaf Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Gyda'i gilydd, cymynnodd y ddwy 260 o weithiau celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1951 a 1963, gan drawsnewid cymeriad, ansawdd ac ystod ei chasgliad celf yn llwyr.
Ŵyresau David Davies Llandinam oedd Gwendoline a Margaret Davies; roedd ef wedi llwyddo drwy ei ymdrechion ei hun i wneud arian mawr drwy perchnogaeth pyllau glo, rheilffyrdd a dociau. Gan iddynt gael magwraeth lem yn y traddodiad Anghydffurfiol Cymreig gwnaethant barhau i fod yn ddirwestwyr ac i gadw'r Sabath. Roeddent yn gymwynaswyr mawr i elusennau a sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog yn Sir Drefaldwyn, a daeth y lle hwnnw yn ganolfan i'r celfyddydau creadigol.
Er nad oeddent wedi etifeddu unrhyw draddodiad o werthfawrogi celfyddyd, o 1908 ymlaen daeth y ddwy chwaer yn gasglwyr celf brwd. Roedd eu cynghorwyr yn y maes yn cynnwys Hugh Blaker, Curadur Amgueddfa Holburne, Caerfaddon, a brawd eu hathrawes cartref; John Witcombe, Curadur Oriel Gelf Victoria, Caerfaddon, a'u delwyr. O dan gyfarwyddyd y rhain, ar y dechrau ffafriai y chwiorydd artistiaid fel Turner, Corot a Millet. Anogodd Blaker hwy i brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Monet a Rodin ac erbyn 1924 roeddent wedi datblygu'r casgliad mwyaf a phwysicaf o weithiau yr Argraffiadwyr Ffrengig a'r ôl-argraffiadwyr yn y wlad. Gall ymwelwyr â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd weld gwaith enwog Renoir La Parisienne, Eglwys Gadeiriol Rouen Monet, tri o'i dirluniau o Fenis, Y Gusan gan Rodin a gweithiau eraill gan Manet a Pissarro. Disgrifiwyd hyn yn House and Garden fel 'yr arddangosfa fwyaf hudol ym Mhrydain o bosib'. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gogoniannau eraill fel tri o baentiadau lilïau'r dŵr Monet, tri o weithiau Cézanne, Glaw – Auvers gan Van Gogh a nifer o weithiau gan Millet, Daumier a Carrière.
Caiff y chwiorydd Davies eu hadnabod orau am baentiadau yr Argraffiadwyr a'r ôl-argraffiadwyr. Serch hynny gellir gweld gweithiau a brynwyd ganddynt ym mhob un o'n orielau bron. Mae eu casgliad hefyd yn cwmpasu dau ddarlun o weithdy Botticelli, Tynnu Dillad Crist gan El Greco, Golygfa yn Windsor Great Park gan Richard Wilson, pum darlun olew gan J. M. W. Turner a nifer lluosog o weithiau gan Augustus John.
Casglodd y chwiorydd hefyd weithiau ar bapur. Dyfrlun ym 1906 yw'r cofnod cyntaf sydd ohonynt yn prynu gwaith celf. Casglwyd nifer mawr o ddarluniau a dyfrluniau Ffrengig yn cynnwys enghreifftiau gwych o waith Cézanne, Daumier, Puvis de Chavannes, Signac a Pissarro. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig hefyd yn nyfrluniau Turner, gan dalu y swm uchel o £1,520 am olygfa o Würzburg ym 1919. Roedd ganddynt un gwaith gan Blake a nifer o olygfeydd topograffaidd gan Moses Griffith, yr 'arlunydd o was', ynghyd ag enghreifftiau o'r 20fed ganrif gan Augustus John, Josef Herman, Oskar Kokoschka, Stanley Spencer, Percy Wyndham Lewis, Frank Brangwyn, Eric Gill a J. D. Innes.