Casgliad De Winton o Borslen Cyfandirol

Wilfred De Winton (1856–1929)

Böttger stoneware teapot (1711–1715)

Tebot Meissen (1723–4), wedi ei addurno gan Höroldt

Wilfred De Winton (1856–1929), aelod o deulu o fancwyr llwyddiannus o Sir Frycheiniog, oedd un o gymunroddwyr pennaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ym 1917 a 1929 rhoddodd dros 2,000 o ddarnau o borslen cyfandirol o'r 18fed a'r 19eg ganrif gynnar i'r Amgueddfa. Hwn yw un o'r casgliadau mwyaf pwysig o'i fath mewn unrhyw amgueddfa ym Mhrydain.

Dechreuodd De Winton gasglu porslen yn yr 1980au. Ei ddiddordeb pennaf oedd nodau ffatrioedd, a derbyniodd enghreifftiau o gynnyrch wedi ei nodi o bob un o'r ffatrioedd porslen hyd at tua 1790. Roedd ganddo ddiddordeb hefyd yn y ffordd yr oedd siapau a phatrymau yn cael eu copïo a'u dynwared gan eraill.

Meissen

Sefydlwyd ffatri Meissen ym 1710 gan Awgwstws y Cadarn, Etholwr Sacsoni, ac mae wedi parhau i fod yn fenter wladwriaethol hyd heddiw. Hi oedd y ffatri Ewropeaidd gyntaf i gynhyrchu porslen iawn-ryw neu bast-caled. Cyn hynny yn Tsieina yn unig (ac yn Japan ar hyd y ganrif ddiwethaf) y gwnaed y deunydd gwyn, soniarus a thryloyw yma, ac o'r fan honno cafodd ei gludo i Ewrop mewn niferoedd anferth. Y dynwarediad Ewropeaidd gorau oedd porslen artiffisial neu bast-meddal a gynhyrchwyd ar raddfa fechan yn Ffrainc o ddiwedd yr 17eg ganrif.

Johann Friedrich Böttger (1682–1719) ddarganfyddodd gyfrinach gwneud porslen past-caled ym 1709, ond ni chafodd ei gynhyrchu ar raddfa fawr tan 1713. Cyn y llwyddiant yma, dyfeisiodd Böttger grochenwaith coch caled iawn yr oedd modd rhoi sglein neu lathriad arno a'i baentio. Roedd De Winton yn berchen ar botel a thebot o grochenwaith caled Böttger o tua 1711–1715. Mae yn y casgliad hefyd sawl enghraifft o borslen cynharaf Böttger.

Mae'r nwyddau enamel niferus o'r 1720au yn y casgliad yn adlewyrchu dylanwad y peintiwr Johann Gregor Höroldt, a ddaeth i Meissen o Fiena ym 1720.

Mae casgliad De Winton hefyd yn rhychwantu arddulliau nodweddiadol o addurnwaith Meissen:

  • Addurniad enamel is-lathriad glas ac arddull-Kakiemon, a ysbrydolwyd gan borslen Tseina a Japan.
  • Sawl math o baentio blodau. Dyddia'r cynharaf a adwaenir wrth yr enw Holzschnittblumen ('blodau torlun pren') o tua 1740, ac mae'n arddull anystwyth braidd, a gopïwyd o engrafiadau.
  • Enghreifftiau da o addurno gan Hausmaler, enamelwyr a goreurwyr annibynnol yn gweithio oddi allan i'r ffatri

Ym 1756 ar ddechrau'r Rhyfel Saith Mlynedd meddiannodd y Prwsiaid Meissen.

Roedd cyfnod llewyrchus y ffatri drosodd ac nid oedd ei nwyddau diweddarach yn boblogaidd gan gasglwyr cynnar. Fodd bynnag y mae casgliad De Winton yn cynnwys rhai enghreifftiau o'r darnau diweddarach yma.

Ffatrioedd Eraill

Gosodiad canol bwrdd Ansbach (tua 1762)

Pâr o gawgiau porslen o Ffatri Loosdrecht (1774–80)

Sefydlwyd yr ail ffatri borslen Ewropeaidd yn Fiena ym 1718 gan Claude Innocent Du Pacquier.

Sefydlwyd nifer o ffatrioedd yn y diwedd ar draws yr Almaen, yn cael eu cefnogi gan lawer o'r tywysogion a oedd yn dymuno cael y bri fyddai'n deillio o ffatri borslen. Wedi Meissen, y ffatrioedd yn yr Almaen sy'n cael eu cynrychioli orau yng nghasgliad de Winton yw Höchst, Nymphenburg, Ludwigsburg, Ansbach a Berlin.

Hefyd dymunai De Winton gynrychioli ystod llawn cynhyrchu porslen yn Ewrop yn y 18fed ganrif: porslen o Fenis, Doccia a Naples yn yr Eidal, o Ddenmarc a'r Swistir, o Rwsia, Gwlad Belg a Ffrainc.

Hwyrach mai camp fwyaf De Winton yw ei gasgliad o tua 250 darn o borslen o'r Iseldiroedd, a oedd bron yn anhysbys ym Mhrydain yn nechrau'r 1900au. Gwyddai De Winton yn bersonol am yr Iseldiroedd a gwnaeth sawl pryniant yn Amsterdam.